Mae sawl priodas wedi gorfod cael ei gohirio am y tro oherwydd y cyfnod dan glo.

Ond diolch i griw Priodas Pum Mil, mae Danny Hughes wedi medru priodi Nia Wynne Hughes yn stafell fyw eu fflat yn Llangefni – gyda 45 o westeion yn ymuno gyda nhw trwy wefan Zoom.

Chris ‘Foodgasm’ Roberts oedd yn gyfrifol am y bwyd, ac Arfon Wyn o’r Moniars fu’n canu o dan ffenestr fflat y pâr priod.