Mae’n rhy ddrud. Dyna pam mae cyn lleied o gyfresi drama wedi’u gosod ym myd gwasanaethau tân ac achub. Mae Sam Tân yn eithriad, wrth gwrs. Mi alla fo gael ‘Towering Inferno’ ym mhob pennod tase fo isio, ond iddo gael digon o greons melyn.