Mae ‘Protect the NHS’ yn ymadrodd rhyfedd i’w roi o flaen desg lywodraethol.

Fel tae e o dan fygythiad, rhywbeth sydd angen ei achub – fel oen sy’ wedi crwydro’n rhy agos i’r dibyn, neu rywun sy’ wedi nofio’n rhy bell o’r lan.

Ry’n ni wedi clywed yr ymadrodd ar amryw o orymdeithiau’r ddegawd ddiwetha’.

Ond o enau gwas llywodraethol?

A beth am drefn y geiriau – ei roi e’n ail yn y rhestr, cyn ‘Save Lives’.

Onid pwrpas yr NHS yw achub bywydau?