Pan fo’r awydd yn codi i ddianc rhag prysurdeb y byd gwaith, bydd Prif Weithredwr S4C yn mynd am sbin mewn hen beiriannau pwerus sy’n rhuo lawr y lôn.

Mae ganddo hen fotobeic BMW oedd yn arfer cario plismyn erstalwm, a hen gar Porsche 911 y bydd o’n cael hwyl ar ei drwsio.

“Dw i’n credu bod tipyn bach o steil iddyn nhw,” meddai Owen Evans wrth egluro’r atyniad.

“Mae’r BMW yn feic eithaf trawiadol. Dyw e’ ddim yn fflash o gwbl, ond tipyn bach o steil o gwmpas y peth.