Dw i ddim cweit yn siŵr beth sy’n digwydd gyda Facebook. Dw i erioed wedi bod mor boblogaidd.

Fe ges i 60 cais i fod yn ‘ffrind’ wythnos ddiwethaf. Dw i erioed wedi rhoi llawer o goel i’r arfer yma o ofyn i fod yn ‘ffrind ar Facebook’. Ydy’r holl bobol yma yn teimlo’r ysfa i gysylltu nawr, oherwydd bod gyda nhw ddim arall i’w wneud?