Dw i, fel lot o bobl, ddim ‘di bod yn bell iawn o’r tŷ ers dros fis nawr. Falle bo’ fi’n dechre cal llond bol o fod adre’. Falle. Dw i’n cyfarch y postmon fel hen ffrind, ta beth. A dw i’n gallu gweld, er gwaetha’r mwgwd, bod e’n meddwl bo hynny bach yn od. Ond wrth gwrs, os yw pawb yn neud fel fi, ma’ fe’n ca’l cant a mil o bobl yn ’i gyfarch e fel aelod coll o’r teulu bob bore, sy’ bownd o fod ’chydig yn lletchwith.