Gyda’r feirws yn lledaenu dros y wlad a phawb mewn lockdown, mae’r amser pan welwn ni bêl-droed eto yn edrych yn bellach a bellach i ffwrdd.

Mae ’na amheuaeth go iawn erbyn hyn a welwn ni unrhyw bêl-droed o gwbl cyn i dymor newydd Ewrop ddechrau ym mis Gorffennaf. Mae sawl cynghrair yn Lloegr wedi rhoi’r ffidl yn y to yn barod: ni fydd yna unrhyw bêl-droed o gwbl o dan lefel tri ym mhyramid Lloegr, sef Cynghreiriau Cenedlaethol y Gogledd a’r De.