Sut ma’ Boris Johnson, Matt Hancock a’r bloke arall yna sy’n edrych fel robot, i gyd wedi dal y feirws?

Dyma’r bobol r’yn ni’n dibynnu arnyn nhw i’n llywio ni drwy’r gyflafan yma. Os nad yw’r strwythur iechyd a diogelwch yn bodoli i gadw, (fe ellir dadle) tri o bobol bwysica’r wlad yn iach, sdim gobaith caneri gyda’r gweddill ohonom ni.

Falle mai dyna’r neges maen nhw’n ceisio ei gyfleu – ‘os gall e ddigwydd i ni, fe all e ddigwydd i unrhyw un.’