Mae Wayne Pivac, Prif Hyfforddwr Cymru, wedi enwi’i dîm i wynebu’r Eidal ym Mharc y Scarlets brynhawn dydd Sadwrn, Rhagfyr 5.

Bydd y bachwr Sam Parry yn dechrau yng nghrys coch Cymru am y tro cyntaf – enillodd ei gap cyntaf oddi ar y fainc mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Ffrainc.

Mae’r chwaraewr profiadol George North hefyd yn dychwelyd i’r garfan ar ôl cael ei ryddhau i chwarae i’w ranbarth yn ddiweddar.

Bydd yn ymuno â Johnny Williams ynghanol cae yn hytrach nag yn ei safle arferol ar yr asgell.

Daw’r cyhoeddiad tîm ddiwrnod yn gynharach na’r disgwyl.

Ar ôl colli i Iwerddon a churo Georgia cafodd ymgyrch siomedig Cymru yng Nghwpan Cenhedloedd yr Hydref ergyd pellach y penwythnos diwethaf ar ôl colli yn erbyn Lloegr.

Bydd Cymru yn cystadlu gyda’r Eidal am y pumed safle yn y gystadleuaeth.

‘Cyfle arall i barhau i adeiladu’

“Mae dydd Sadwrn yn gyfle arall i’r chwaraewyr yma ac i ni fel carfan i barhau i adeiladu,” meddai’r prif hyfforddwr Wayne Pivac.

“Rydym wedi rhoi wyth cap newydd yn ystod yr ymgyrch ac mae’n bwysig erbyn diwedd y gêm y bydd pob un ohonynt wedi cael mwy nag un ymddangosiad.

“O’r cychwyn cyntaf roeddem am i’r ymgyrch yma fod yn gyfle i chwaraewyr ac rydym wedi gwneud hynny.

“Mae’r gwaith caled yn talu ei ffordd ac rydyn ni eisiau dangos hynny eto ddydd Sadwrn a gorffen yr ymgyrch ar nodyn uchel.”

Tîm Cymru

Olwyr: 15. Liam Williams, 14. Josh Adams, 13. George North , 12. Johnny Williams, 11. Louis Rees-Zammit, 10. Callum Sheedy, 9. Kieran Hardy

Blaenwyr: 1. Nicky Smith, 2. Sam Parry, 3. Tomas Francis, 4. Will Rowland, 5. Alun Wyn Jones (C), 6. James Botham, 7. Justin Tipuric, 8. Taulupe Faletau

Eilyddion16. Elliot Dee, 17. Wyn Jones, 18. Leon Brown, 19. Cory Hill, 20. Aaron Wainwright, 21. Gareth Davies, 22. Ioan Lloyd, 23. Jonah Holmes

Darllen mwy: