Bydd Jamie Roberts yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Dreigiau yn erbyn Bryste yn rownd yr wyth olaf Cwpan Her Ewrop ddydd Gwener (Medi 18).

Ymunodd canolwr Cymru â’r rhanbarth yn ystod y cyfnod clo, ond ar ôl profi’n bositif am Covid-19 bu rhaid iddo hunan ynysu – ddyddiau’n unig cyn i gynghrair y Pro14 ailddechrau.

Yn ystod y pandemig, bu Jamie Roberts yn gwirfoddoli gyda Bwrdd Iechyd Caerdydd a’r Fro.

“Ry’ ni wedi gweithio’n galed dros yr wythnosau diwethaf er mwyn sicrhau ein bod ni’n cael y pymtheg iawn ar y cae”, meddai Dean Ryan, Cyfarwyddwr Rygbi’r Dreigiau.

“Mae yna gyffro go iawn yn y garfan ac mae gennym ni rai chwaraewyr sy’n benderfynol o wneud argraff yn y gêm hon.”

Bydd Jonah Holmes hefyd yn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i’r Dreigiau ddydd Gwener.

Tîm y Dreigiau

Jordan Williams, Jonah Holmes, Nick Tompkins, Jamie Roberts, Ashton Hewitt, Sam Davies, Rhodri Williams (c); Brok Harris, Elliot Dee, Leon Brown, Joe Davies, Matthew Screech, Aaron Wainwright, Harrison Keddie, Ross Moriarty

Eilyddion: Richard Hibbard, Josh Reynolds, Lloyd Fairbrother, Joe Maksymiw, Taine Basham, Luke Baldwin, Josh Lewis, Adam Warren