Bydd gêm Cynghrair Europa UEFA rhwng Cei Connah a thîm Dinamo Tbilisi yn mynd yn ei blaen er bod tri o chwaraewyr Cei Connah wedi profi’n bositif am Covid-19.
Mae’r tri chwaraewr, ac un chwaraewr arall sy’n dangos symptomau, yn hunan ynysu.
Ar ôl trafodaethau gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, UEFA a Chymdeithas Bêl-droed Cymru penderfynwyd byddai’r gêm, sy’n cael ei chwarae ar y Cae Ras yn Wrecsam, yn mynd yn ei blaen heno (Medi 17).
Oherwydd anafiadau a hunan ynysu dim ond 14 chwaraewr fydd ar gael i Gei Connah.
Datganiad gan y clwb
“Nos Fawrth cafodd y garfan gyfan, staff hyfforddi a staff gweithredol eu profi am Covid-19 – mae tri chwaraewr wedi profi’n bositif a chwaraewr arall yn dangos symptomau o’r feirws”, meddai Cei Connah.
“Wrth ddychwelyd i chwarae, rydym wedi cadw at yr holl reolau ac argymhellion gan Gymdeithas Bêl-droed Cymru ac UEFA. Iechyd a diogelwch ein staff a’n chwaraewyr yw ein blaenoriaeth ac mae pob penderfyniad rydym wedi’i gymryd yn adlewyrchu hyn.
“O ganlyniad i’r profion positif, mae’r chwaraewyr yr effeithiwyd arnynt yn hunan ynysu.
“Trwy ddilyn cyngor yr awdurdodau perthnasol a rhoi mesurau ar waith, rydyn ni wedi cael caniatâd i chwarae’r y gêm ar y Cae Ras.”