Iolo Cheung
Y ddau dan bwysau i gyrraedd penllanw ymhen blwyddyn, yn ôl Iolo Cheung …

Mae digon o sylw wedi bod ar y campau yng Nghymru’r wythnos hon wrth i hyfforddwr y tîm rygbi Warren Gatland enwi’i dîm i herio Awstralia, a rheolwr y pêl-droedwyr Chris Coleman yn enwi’r garfan fydd yn teithio i Wlad Belg wythnos nesaf.

Ond nid amseru’r cyhoeddiadau yn unig sy’n cysylltu’r ddau – maen nhw hefyd mewn sefyllfa debyg gyda’u timau ar, ac oddi ar y cae.

Mae llai na blwyddyn i fynd tan Gwpan Rygbi’r Byd, cyfle Gatland a Chymru i wneud yn iawn am y siom o golli o dan yr amgylchiadau mwyaf anffodus yn erbyn Ffrainc yn rownd gynderfynol 2011.

I Coleman bydd Hydref 2015 yn golygu diwedd ar ymgyrch ragbrofol Ewro 2016, ble mae’r disgwyliadau ar Gymru i gyrraedd twrnament rhyngwladol yn uwch nag ers blynyddoedd.

Ond mae gan y ddau ohonyn nhw ddigon o rwystrau i’w gorchfygu cyn hynny os am lwyddo.

Her Tymor yr Hydref

Dros y mis nesaf fe fydd tîm rygbi Cymru’n herio Awstralia, Ffiji, Seland Newydd a De Affrica fel rhan o baratoadau at Gwpan y Byd.

Ac heblaw am y gêm yn erbyn Ffiji, gwrthwynebwyr Cymru fydd yn dechrau fel ffefrynnau bob tro.

Dim ond unwaith mewn saith mlynedd wrth y llyw y mae tîm Gatland erioed wedi trechu un o dri cawr hemisffer y de, er gwaethaf gemau digon agos.

Bwcis ddim yn ffafrio Cymru

Ar hyn o bryd mae’r bwcis yn credu mae Lloegr ac Awstralia, ac nid Cymru, fydd yn dianc o’r grŵp yng Nghwpan Rygbi’r Byd y flwyddyn nesaf.

Felly dros y mis nesaf bydd angen i’r tîm ddangos eu bod nhw’n ddigon cryf, yn feddyliol yn ogystal â chorfforol, i guro goreuon y byd.

Sefyllfa debyg sydd gan Coleman gyda’r tîm pêl-droed – yn ogystal â’r ffaith nad ydi Cymru wedi cyrraedd twrnament rhyngwladol ers 1958, tydyn nhw chwaith heb guro un o dimau cryfaf y byd ers trechu’r Eidal nôl yn 2002.

Does dim amheuaeth fod Gwlad Belg, ffefrynnau’r grŵp rhagbrofol a’u gwrthwynebwyr nhw ar 16 Tachwedd, yn dîm cryf.

Dydi’r tîm Cymru sydd yn cynnwys Gareth Bale ac Aaron Ramsey, er gwaethaf eu dechrau da i’r grŵp hyd yn hyn, dal ddim yn odds-on ar hyn o bryd i fod yn dal yr awyren i Ffrainc yn Haf 2016.

Canlyniadau yn erbyn timau eraill yn y grŵp, gan gynnwys Israel a Bosnia, fydd yn penderfynu tynged Cymru mwy na thebyg.

Ond fe fyddai cael canlyniad annisgwyl yng Ngwlad Belg – fel y gwnaethon nhw’r llynedd – yn arwydd clir mai nid gobeithion gwag sydd gan y cefnogwyr ar hyn o bryd.

Delio â’r disgwyliadau

Yn ogystal â’r heriau sydd yn wynebu’r ddau dîm dros y flwyddyn nesaf ar y cae, fe fyddan nhw’n dod dan bwysau oddi ar y cae hefyd.

Er gwaethaf safon timau hemisffer y de, bydd cefnogwyr rygbi Cymru’n siomedig os na ddaw’r fuddugoliaeth yna yn erbyn un o’r tri mawr yn fuan.

Fe fyddan nhw hyd yn oed yn fwy siomedig os nad yw Cymru’n llwyddo i ddianc o’r grŵp yng Nghwpan y Byd, sefyllfa a arweiniodd at ddiswyddo rhagflaenydd Gatland, Gareth Jenkins, yn 2007.

Cenhedlaeth euraidd

Mae cefnogwyr y tîm pêl-droed hefyd yn teimlo mai dyma cyfle gorau Cymru i gyrraedd twrnament – os nad ydyn nhw’n llwyddo gyda’r genhedlaeth aur yma, yn enwedig gyda chyfle i fwy o dimau gyraedd yr Ewros, fe fydd rhai yn llwyr anobeithio y gwnawn nhw weld y peth yn digwydd fyth.

Ac o gofio bod y timau rygbi a phêl-droed yn aml yn methu llond llaw o’u prif chwaraewyr ar gyfer pob gêm oherwydd anafiadau, prin iawn y mae’r cefnogwyr yn cael gweld y tîm cryfaf ar y cae.

Ond wrth gwrs, mae’r cefnogwyr yn un arf pwysig i’r ddau dîm hefyd.

O’r eiliad y dechreuodd y dorf ganu ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ yn Stadiwm y Mileniwm ym mis Mawrth 2012, roeddech chi’n gwybod y byddai gan y bois rygbi ddigon o dân yn eu boliau i fynd allan a chwalu’r Saeson 30-3.

Yn ddiweddar hefyd mae’r torfeydd wedi dechrau dychwelyd i gefnogi’r tîm pêl-droed, gan eu cynorthwyo i fuddugoliaeth yn erbyn Cyprus a gêm gyfartal yn erbyn Bosnia fis diwethaf.

Mae’r gefnogaeth oddi cartref hyd yn oed yn well – dyma gefnogwyr Cymru’n canu draw yng Ngwlad Belg y llynedd (fe aeth hyn ymlaen am o leiaf deng munud):

Digon yn gyffredin rhwng Gatland a Coleman felly, a sawl her ar y gorwel – ond fe fydd y cefnogwyr y tu ôl iddyn nhw bob cam o’r ffordd.