Chris Coleman
Mae rheolwr Cymru Chris Coleman wedi mynnu bod ganddo berthynas wych gyda staff Real Madrid, wrth iddo baratoi i groesawu Gareth Bale i garfan Cymru yr wythnos nesaf.
“Allwn ni ddim gofyn mwy gan Carlo [Ancelotti, y rheolwr] a Madrid, maen nhw wedi bod yn wych,” meddai Coleman, a gyhoeddodd garfan gref ddoe ar gyfer y trip i Frwsel.
“Allwn ni ddim bod wedi cael mwy o gefnogaeth.”
Fe fu Bale allan am bythefnos ar ôl anaf i gyhyr yn ei ben ôl, gan ddychwelyd yr wythnos hon yn eilydd yn y fuddugoliaeth dros Lerpwl yng Nghynghrair y Pencampwyr.
Mae disgwyl i’r Cymro ddechrau i Real yn erbyn Rayo Vallecano ddydd Sadwrn, wrth iddo adennill ei ffitrwydd cyn i Gymru herio Gwlad Belg mewn gêm ragbrofol Ewro 2016 yr wythnos nesaf.
Deall ei gilydd
Ac mae Coleman yn falch ei fod ef a Real Madrid yn deall ei gilydd o ran ffitrwydd y seren o Gaerdydd a dorrodd record trosglwyddo’r byd am £85m.
“Fi’n falch fod Baley’n dechrau [yn erbyn Rayo] i fod yn onest. Bydd angen o leiaf awr arno mae’n siŵr gan ei fod e wedi methu gemau,” meddai Chris Coleman.
“Fe wneith e les i ni os gaiff e awr, neu chwarae 90 munud.”
Amddiffyn Ramsey
Fe chwaraeodd un o sêr eraill Cymru, Aaron Ramsey, yng Nghynghrair y Pencampwyr yr wythnos hon wrth i Arsenal herio Anderlecht.
Ond cafodd Ramsey ei feirniadu gan y sylwebydd Charlie Nicholas wedi i’w dîm ildio mantais o dair gôl, gyda’r gêm yn gorffen 3-3.
Ond mynnodd Coleman y bydd y chwaraewr canol cae, a ddychwelodd o anaf ychydig wythnosau yn ôl, yn gwella o gêm i gêm.
“I mi fi jyst yn falch ei fod e’n chwarae. Fi’n nabod Aaron, mae angen iddo fe chwarae a chwarae’n rheolaidd, dyna pryd ni’n gweld y gorau ohono,” meddai rheolwr Cymru.
Allen yn ôl hefyd
Ramsey yw un o’r chwaraewyr a fethodd ddwy gêm ragbrofol ddiwethaf Cymru oherwydd anaf, ond mae ef ac eraill, gan gynnwys Joe Allen a James Collins, bellach yn holliach.
Ac mae Coleman yn edrych ymlaen at allu dewis ei ddwy seren yng nghanol cae gyda’i gilydd i wynebu Gwlad Belg.
“Ni prin wedi cael Allen a Ramsey gyda’i gilydd,” meddai Coleman. “Bydd dau chwaraewr o’r safon yna’n gwella unrhyw dîm, rydyn ni’n gwybod hynny, felly mae’n dda eu cael nhw nôl.”
Kit yn aros
Fe gadarnhaodd Coleman hefyd y bydd is-reolwr Cymru Kit Symons yn teithio gyda’r tîm i Wlad Belg, er gwaethaf y ffaith ei fod newydd gael ei benodi fel rheolwr parhaol Fulham.
“Mae Kit ar y trip,” meddai Coleman. “Ges i sgwrs gyda fe ynglŷn â pharhau ac roeddwn i’n meddwl falle na fyddai e.
“Ond dyw e ddim eisiau peidio bod yma, mae e eisiau parhau. Fe siaradodd e â chadeirydd Fulham, sydd wedi bod yn gefnogol.”
Mynnodd Coleman hefyd fod ganddo ddigon o opsiynau yn yr ymosod ar gyfer y gêm yng Ngwlad Belg, er gwaethaf absenoldeb Sam Vokes a Simon Church oherwydd anafiadau.
“Mae gyda ni Baley ac wedyn mae gyda ni fois ifanc fel Tom Lawrence a George Williams, sydd yn gyffrous iawn,” ychwanegodd y rheolwr.