Shane Williams ar ei orau
Mae cyn-asgellwr Cymru Shane Williams wedi mynnu nad oes ganddo gynlluniau ar hyn o bryd i ddychwelyd i hyfforddi Castell Nedd.
Ond mae wedi dweud y byddai gweithio gyda’i hen glwb yn “swydd ddelfrydol” wrth iddo ddod yn ôl i Gymru.
Ddoe fe gyhoeddodd Williams y bydd yn ymddeol o chwarae rygbi ar ddiwedd y tymor presennol yn Japan.
Mis Chwefror
Mae Shane Williams wedi bod yn chwarae i glwb Mitsubishi Dynaboars ers dwy flynedd a hanner, ac mae disgwyl y bydd yn dychwelyd o ddwyrain Asia ym mis Chwefror.
Cyfaddefodd cyn-chwaraewr Castell Nedd a’r Gweilch, a sgoriodd 58 cais mewn 87 gêm dros Gymru, ei fod yn gobeithio datblygu gyrfa hyfforddi yn y dyfodol.
Heb glywed y sïon
Ond fe ddywedodd y gŵr o Ddyffryn Aman nad oedd wedi clywed unrhyw sôn ei fod ar fin ymuno â staff hyfforddi Castell Nedd.
“Dyna’r cyntaf fi wedi clywed am y peth,” meddai Williams wrth BBC Radio Wales. “Bydden i’n hoffi mynd nôl mewn i rygbi yng Nghymru, ond fi ddim yn credu y bydd hynny’n digwydd yn syth.
“Mae yna lot o bethau ar y gweill gen i o ran busnes, a Chwpan y Byd y flwyddyn nesaf, ond falle yn y dyfodol. Bydde hi’n swydd ddelfrydol.”