Dechreuodd Osian Roberts ei yrfa hyfforddi wrth ddatblygu sgiliau chwaraewyr ieuenctid ar Ynys Môn
Dyfed Parry fu yn lansiad diweddar hunangofiant is-reolwr tîm pêl-droed Cymru, Osian Roberts…

Braint ac anrhydedd oedd cael bod yn bresennol yn noson lansio hunangofiant fy hen ffrind Osian Roberts yn ddiweddar.

Mae yna rywbeth rhamantus am yr hen neuadd bentref Cymreig, cymdeithasau yn cyfarfod mewn dawns a chân ac amryw o weithgareddau eraill.

Yn neuadd Bodffordd ger Llangefni y cafodd Osian un o’i brofiadau cyntaf o berfformio ar lwyfan, ac ers hynny mae ei yrfa wedi ymestyn i rai o brif lwyfannau’r byd pêl-droed a’r gynulleidfa yn rai o brif chwaraewyr, hyfforddwyr a chefnogwyr y bêl gron ar draws y byd.

Taith bell

Balch iawn oeddwn i gael y cyfle i wrando ar Dylan Jones yn cyflwyno un o feibion Môn a gwrando ar y dyn ei hun yn trafod ei blentyndod ar yr ynys.

Fel sawl un arall, syrthiodd Osian mewn cariad hefo pêl-droed wrth gicio pêl hefo’i ffrindiau ym Modffordd ac yna ymhellach yn Ysgol Gyfun Llangefni.


Mae Dyfed Parry, sydd bellach yn hyfforddi tîm pêl-droed dynion Ynys Môn, yn nabod Osian Roberts yn dda
Wedi hynny fe dreuliodd rai blynyddoedd yn yr Unol Daleithiau ar ysgoloriaeth yn chwarae ac astudio pob agwedd o’r gêm brydferth.

Dychwelyd i Fôn oedd ei hanes gan ddilyn ei freuddwyd o ddatblygu strwythur hyfforddi chwaraewyr ifanc ar lawr gwlad.

Erbyn hyn, mae ei gyfraniad ar ddechrau’r daith hon wedi dwyn ffrwyth a’i waith yn arwain Adran Dechnegol yr FAW yn cael ei gydnabod yn fyd-eang.

Siwrne anhygoel

Yn amlwg mae Osian yn hynod werthfawrogol o’r arweiniad a’r gefnogaeth a gafodd yn fachgen ifanc gan deulu agos a ffrindiau.

Yn ogystal â chydweithio hefo rhai o enwau mwyaf poblogaidd y byd pêl-droed, mae’n falch o gydnabod y gefnogaeth a gafodd gan nifer o gyfoedion a chymeriadau lleol eraill hefyd drwy gydol ei yrfa.


Her nesaf Osian Roberts Chris Coleman yw paratoi Cymru i wynebu Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp yn Ewro 2016 (llun: CBDC)
Wrth gwrs, uchafbwynt ei yrfa hyd yma ydi bod yn rhan flaenllaw o dîm hyfforddi’r tîm cenedlaethol a’r siwrnai anhygoel gyffrous i gystadleuaeth Ewro 2016.

Mae’n amlwg ei fod yn cydweithio yn dda iawn hefo Chris Coleman, fel yr oedd hefo’i ffrind, y diweddar Gary Speed.

Mae yna bennod hynod o deimladwy yn hunangofiant Osian yn dilyn ei berthynas agos hefo Gary Speed, a’r effaith a gafodd marwolaeth druenus yr arwr o Benarlâg arno fo a’r garfan.

Mae’n mynd ymlaen i drafod ei emosiynau ar hyd yr ymgyrch i gyrraedd Ffrainc, y gemau anhygoel yn erbyn Gwlad Belg, a’r rhyddhad o dderbyn y newyddion fod Cymru Fach wedi cyrraedd y nod… o’r diwedd.

Pob lwc Osh, hogyn o Fôn. Balch iawn yw dy ffrindiau o dy lwyddiant.

Mae Dyfed Parry yn Bennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol Uwchradd Caergybi, yn Brif Hyfforddwr ar Dîm Pêl-droed Dynion Ynys Môn, ac yn ohebydd rhan-amser ar bêl-droed i Radio Cymru.