Bydd Gareth Bale yn gobeithio dathlu buddugoliaeth arall yn y gystadleuaeth pan fydd Real Madrid yn wynebu Man City nes ymlaen yn y mis (llun: Manu Fernandez/AP)
Fe fydd Gareth Bale a Real Madrid yn wynebu Man City yn rownd gynderfynol Cynghrair y Pencampwyr, wrth i’r Cymro anelu i gipio’r tlws am yr ail waith.
Llwyddodd Real i gyrraedd rownd y pedwar olaf ar ôl trechu Wolfsburg o 3-0 gyda hat-tric gan Ronaldo, a hynny ar ôl colli o 2-0 yn y cymal cyntaf.
Cyrhaeddodd Man City’r rownd gynderfynol am y tro cyntaf erioed ar ôl ennill 3-2 dros ddau gymal yn erbyn Paris St Germain.
Mae Joe Allen a Lerpwl hefyd drwyddo i’r rownd gynderfynol yng Nghynghrair Ewropa, ble byddwn nhw’n wynebu Villarreal, a hynny ar ôl buddugoliaeth ddramatig yn erbyn Borussia Dortmund neithiwr.
Canmol Pirlo Penfro
Roedd Lerpwl yn colli o 3-1 yn erbyn Dortmund wedi awr o chwarae neithiwr, a hynny ar ôl i’r cymal cyntaf orffen 1-1.
Roedd hynny’n golygu bod angen tair gôl ar y Cochion er mwyn cyrraedd y rownd nesaf, a hynny yn erbyn y ffefrynnau i ennill y gystadleuaeth.
Ond ar ôl dod â Joe Allen a Daniel Sturridge oddi ar y fainc gyda hanner awr i fynd fe drawsnewidiwyd y gêm, gyda’r Sgowsars yn llwyddo i ganfod y goliau oedd eu hangen a’r olaf yn dod yn ystod yr amser anafiadau ar ddiwedd y gêm.
Yn dilyn y fuddugoliaeth bu tipyn o ganmoliaeth eto i berfformiad Allen – gyda rhai ar y cyfryngau cymdeithasol yn mynd yn bellach na’i gilydd!
Chwara teg, hwna'n dipyn o comeback gan Lerpwl Joe Allen nath y gwahaniaeth wrth gwrs #pirlopenfro
— Owain Schiavone (@OwainSgiv) April 14, 2016
Joe Allen, that is all.#geniusbach (P.S. idiot di Klopp yn peidio dechra efo fo)
— Dylan Roberts (@llan4) April 14, 2016
Joe Allen comes on … Liverpool make incredible comeback. Coincidence? I think not. #NoAllenNoParty
— blogdroed OMB (@blogdroed) April 14, 2016
Roedd rhai o’r farn mai grym goruwchnaturiol Allen wnaeth y gwahaniaeth:
#JOEALLEN #LFC WELSH JESUS pic.twitter.com/gw5dAIphmm
— @mrmarksimpson (@mrmarksimpson) April 14, 2016
Joe Allen is the name. Jesus. Messiah. Saviour. pic.twitter.com/vgzFEYo20V
— Crazy Klopp (@TheCrazyKlopp) January 26, 2016
A hynny wedi arwain at y wyrth yma!
It's a miracle.
Take a look at the Liverpool fans in the wheelchair viewing area behind the goal.. pic.twitter.com/KBl0skJ477
— Oddschecker (@Oddschecker) April 15, 2016