Mae gan Chris Coleman dipyn o waith pendroni i'w wneud cyn dewis ei garfan ym mis Mai
Mae’r ymgyrch ragbrofol wedi hen orffen a’r gemau cyfeillgar diweddaraf bellach ar ben – y tro nesaf i bêl-droedwyr Cymru gamu i’r cae, fe fydd y rheolwr Chris Coleman wedi enwi ei garfan o 23 fydd yn mynd i Ewro 2016.

Pwy fydd ddigon lwcus i fynd i Ffrainc ym mis Mehefin yn hytrach nag ar eu gwyliau haf arferol? A pha chwaraewyr fydd yn cael eu siomi pan fydd y garfan yn cael ei henwi?

Wrth i Coleman bendroni’r opsiynau, mae Owain Schiavone, Iolo Cheung ac Alun Chivers o golwg360 wedi bod yn dewis y garfan fydden nhw’n hoffi’i weld yn mynd i’r Ewros.

Mae awdur The Dragon Roars Again, Jamie Thomas, a chyfrannwr cyson i’r Pod Pêl-droed Tommie Collins hefyd yn rhoi eu barn nhw ar bwy ddylai fod ar yr awyren.

Owain Schiavone

Gôl: Wayne Hennessey, Owain Fôn Williams, Danny Ward

Amddiffyn: Chris Gunter, Jazz Richards, Ashley Williams, James Chester, James Collins, Ben Davies, Neil Taylor

Canol cae: Joe Allen, Joe Ledley, Emyr Huws, Jonathan Williams, Aaron Ramsey, Andy King, George Williams, David Edwards, David Vaughan

Ymosod: Hal Robson-Kanu, Simon Church, Sam Vokes, Gareth Bale


Yn ôl Owain mae Tom Lawrence wedi methu cyfle yn y gemau cyfeillgar diweddar i ddangos ei fod o'n haeddu bod yn y garfan (llun: David Davies/PA)
“Mae disgwyl i Chris Coleman ddewis wyth amddiffynnwr ac wyth chwaraewr canol cae ar gyfer y bencampwriaeth, a llawer yn dyfalu ai Paul Dummett neu Adam Matthews fyddai’n cipio’r wythfed safle yn y cefn. Ond gyda chymaint o dalent yng nghanol cae gan Gymru, mae gen i deimlad y gallai Coleman setlo am saith amddiffynnwr gan agor lle i un chwaraewr canol cae ychwanegol. Mae gennym ni bedwar cefnwr da, a dau o’r rheiny (Davies a Gunter) yn gallu chwarae yn y canol os oes angen.

“Mae llawer yn dibynnu ar ffitrwydd Dave Edwards wedyn – os fydd o’n ffit, dwi’n siŵr y bydd yn y garfan, ac i mi, David Vaughan sy’n cynnig y mwyaf rhyngddo fo, Andrew Crofts a David Cotterill. Os na fydd Edwards yn ffit, yna gallai perfformiadau clwb Crofts a Cotterill fod yn allweddol. Dwi’n ofni bod Tom Lawrence wedi colli ei gyfle gyda’i berfformiadau dros y penwythnos, ac mae’n drueni na chafodd Tom Bradshaw fwy o funudau ar y cae.”

Gwersi’r gemau cyfeillgar – Owain Schiavone yn trafod beth gafodd ei ddysgu yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin

Iolo Cheung


Iolo ydi'r unig un sydd wedi cynnwys amddiffynnwr Newcastle Paul Dummett yn ei garfan
Gôl: Wayne Hennessey, Danny Ward, Owain Fôn Williams

Amddiffyn: Chris Gunter, Jazz Richards, James Collins, Ashley Williams, James Chester, Ben Davies, Neil Taylor, Paul Dummett

Canol cae: Joe Ledley, Joe Allen, David Vaughan, Emyr Huws, Aaron Ramsey, Andy King, Jonny Williams, George Williams

Ymosod: Gareth Bale, Sam Vokes, Hal Robson-Kanu, Simon Church

“Y golwyr a’r amddiffynwyr yn dewis eu hunain, oni bai am Dummett – fyswn i’n mynd â fo o flaen Adam Henley jyst am ei fod o’n gallu chwarae fel cefnwr canol yn ogystal ag ar y chwith os oes angen. Rhaid mynd ag wyth amddiffynnwr, yn enwedig gan fod Coleman yn hoff o chwarae pump yn y cefn.

“Dewis anodd yng nghanol cae, ond dw i’n ffan o Huws ac fe fyddai’n dda cael profiad Vaughan wrth gefn, felly’n anffodus dim lle i Dave Edwards. Y ddau Williams hefyd yn dod a sbarc ychwanegol ac felly’n fwy tebygol o wneud gwahaniaeth mewn gêm na Cotterill.

“Yn yr ymosod roedd hi rhwng Church, Lawrence a Bradshaw i mi, ond yn anffodus dydyn ni heb weld digon o Bradshaw eto, a wnaeth Lawrence ddim gafael yn ei gyfle dros yr wythnos ddiwethaf. Tan iddyn nhw brofi’u hunain felly, Church sydd yn cadw’r lle.”

Iolo Cheung yn dyfalu pwy fydd Chris Coleman yn enwi yn ei garfan derfynol ar gyfer Ewro 2016

Alun Chivers


Does dim lle yng ngharfan Alun i George Williams, asgellwr Fulham wnaeth argraff yn gynharach yn yr ymgyrch ragbrofol (llun: CBDC)
Gôl: Wayne Hennessey, Owain Fôn Williams, Danny Ward

Amddiffyn: James Collins, Ashley Williams, James Chester, Ben Davies, Neil Taylor, Adam Matthews, Jazz Richards, Chris Gunter

Canol cae: Aaron Ramsey, David Vaughan, Joe Allen, Andy King, Joe Ledley, Jonny Williams, David Cotterill, Emyr Huws

Ymosod: Gareth Bale, Sam Vokes, Hal Robson-Kanu, Simon Church

Profiad fydd y gair allweddol i Gymru os ydyn nhw am greu unrhyw fath o argraff yn Ffrainc, felly ar hynny dwi wedi seilio fy newisiadau. Mae’r tri golwr i bob pwrpas wedi dewis eu hunain, ac ymhlith yr amddiffynwyr gellid fod wedi ystyried Adam Henley a Paul Dummett, ond chwaraewyr ymylol fuon nhw sydd heb wir profi eu gwerth drwy’r ymgyrch.

Does dim lle yn fy ngharfan ar gyfer George Williams yng nghanol cae. Roedd hi’n agos rhyngddo fe a David Vaughan ond unwaith eto, profiad piau hi a Vaughan sy’n mynd â hi o drwch blewyn. Y pedwar ymosodwr amlwg sy’n cael fy sêl bendith i – er bod Tom Lawrence wedi dangos cryn addewid, a Tom Bradshaw yn un arall ar gyfer y dyfodol. Ond nid twrnament rhyngwladol yw’r lle i arbrofi.”

Jamie Thomas


Nid oes lle i David Vaughan, y Cymro Cymraeg o Abergele, yng ngharfan Jamie
Gôl: Wayne Hennessey, Owain Fôn Williams, Danny Ward

Amddiffyn: Jazz Richards, Chris Gunter, James Chester, Ashley Williams, Neil Taylor, Ben Davies, James Collins

Canol cae: Aaron Ramsey, Joe Allen, Andy King, Joe Ledley, Jonny Williams, Emyr Huws, George Williams, Dave Edwards

Ymosod: Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Simon Church, Sam Vokes, Tom Bradshaw

“Mae’r gemau cyfeillgar diwethaf wedi gwneud pethau’n gliriach i fi. Fe ddywedodd Coleman wrtha i wrth i mi ymchwilio i fy llyfr y bydd cyfle i’r hogiau ifanc fynd i dwrnamentau yn y dyfodol, ond dw i’n meddwl eu bod nhw’n haeddu mynd i Ffrainc y tro yma hefyd.

“Fe wnaeth Jonny Williams, Emyr Huws, George Williams a Tom Bradshaw yn dda yn y gemau cyfeillgar, ac mae’n rhaid iddyn nhw fynd. Fe fethodd Gogledd Iwerddon yn llwyr i ddelio hefo’r ddau Williams, ac roedd Huws a Bradshaw yn dda iawn yn erbyn tîm corfforol yn Kiev – dydi Huws na Jonny Williams wedi cael llawer o bêl-droed yn ddiweddar chwaith. Fe fydd y perfformiadau diweddar ond yn cynyddu eu hyder nhw.

“Roedd hi’n anodd gadael David Vaughan allan, ond chafodd o ddim y gêm orau yn erbyn Gogledd Iwerddon ac mae’r gystadleuaeth mor gryf ar y funud. Fe fydd hi’n agos iawn rhyngddo fo, Edwards a King yn fy marn i am ddau le yn y garfan. Efallai y bydd Coleman yn mynd ag wyth amddiffynnwr yn hytrach na’r saith dw i wedi dewis, ond dw i’n siŵr ei fod o’n gwybod o leiaf 21 o’r 23 y bydd o’n ei ddewis erbyn hyn.”

Tommie Collins


Fydd Jonny Williams ddim yn wynebu'r wasg allan yn Ffrainc os ydi Tommie'n cael ei ffordd
Gôl: Wayne Hennessey, Owain Fôn Williams, Danny Ward

Amddiffyn: Chris Gunter, Jazz Richards, James Collins, Ashley Williams, James Chester, Ben Davies, Neil Taylor

Canol cae: Joe Allen, Joe Ledley, Aaron Ramsey, Emyr Huws, David Vaughan, Dave Edwards, Andy King

Ymosod: George Williams, Gareth Bale, Hal Robson-Kanu, Sam Vokes, Tom Bradshaw, Simon Church

“Dw i’n meddwl yn sicr ‘na rhain ddylai fynd i Ffrainc – mae Bradshaw yn frwdfrydig ac yn sgoriwr naturiol. Tydi Tom Lawernce a Jonny Williams ddim wedi gwneud digon i fi.

“Jazz Richards â mwy o brofiad nac Adam Henley, ac yn anffodus mae Adam Matthews ‘di methu gormod o bêl-droed oherwydd anafiadau. Canol cae yn dewis ei hun. Digon o opsiynau a phrofiad gan Dave Edwards  a David Vaughan.”