Mae’r Gleision wedi cyhoeddi eu bod wedi arwyddo canolwr o Seland Newydd, Willis Halaholo, ar gyfer y tymor nesaf.
Fe fydd y chwaraewr 25 oed yn symud i Gymru wedi i’w dymor gyda Waikato yng nghystadleuaeth yr NPC ddod i ben.
Mae Halaholo hefyd wedi chwarae dros dîm Super Rugby yr Hurricanes, ar ôl gwneud enw i’w hun gyda chlwb Southland yng Nghwpan ITM.
“Mae Willis yn bresenoldeb creadigol yn y canol ac rydyn ni’n teimlo y bydd ei gêm o’n siwtio cae Parc yr Arfau BT Sport,” meddai prif hyfforddwr y Gleision Danny Wilson.
“Ochr yn ochr â chwaraewyr fel Rey Lee-Lo a Matthew Morgan, fe fydd e’n ychwanegu hyd yn oed mwy o fygythiad ymosodol i’n gêm ni.”
‘Blasu’r diwylliant’
Cafodd Halaholo, sydd yn bum troedfedd 11 modfedd o uchder ac yn pwyso dros 16 stôn, ei eni yn Auckland yn Seland Newydd.
Ond fe ddywedodd y chwaraewr ei fod bellach yn edrych ymlaen at her newydd yn hemisffer y gogledd, ar ôl gwrthod cynigion o Ffrainc a Siapan yn y gorffennol.
“Roedd y cyfle i ymuno â chlwb fel Gleision Caerdydd, sydd yn chwarae mewn maes sydd â chymaint o hanes, yn apelgar tu hwnt,” meddai’r chwaraewr, sydd hefyd yn gymwys i chwarae dros Tonga.
“Ar ôl siarad â’r hyfforddwyr a dod i ddeall beth roedden nhw’n chwilio amdano rydw i’n edrych ymlaen yn fawr at allu cyfrannu tymor nesaf a thu hwnt.
“Roedd yr amseru’n dda i mi a fy nheulu ac mae’r cyfle i chwarae rygbi mewn rhan arall o’r byd a chael blas ar ddiwylliant Cymreig go iawn hefyd yn un cyffrous.”