Oes, mae llai na thri mis i fynd bellach tan Ewro 2016 – ac ychydig dros wythnos yn unig nes i dîm Cymru chwarae eu gêm gartref olaf cyn teithio draw i Ffrainc ar gyfer y twrnament.

Digon o reswm felly i ni ddod at ein gilydd ar gyfer pod pêl-droed diweddaraf Golwg360, yn enwedig gan fod Chris Coleman yn enwi’i garfan ddydd Gwener ar gyfer y ddwy ornest gyfeillgar nesaf yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin.

Yn ymuno ag Owain Schiavone ac Iolo Cheung heddiw mae Russell Todd, un o sylfaenwyr y Podcast Pêl-droed sydd hefyd wedi bod yn cadw llygad ar hynt a helynt y tîm cenedlaethol ers bron i ddwy flynedd.

Mae’r tri yn trafod rhai o’r chwaraewyr allai gael cyfle yn ystod y gemau nesaf, yn enwedig yn sgil anafiadau i eraill, wrth i Coleman gael un cyfle arall i fwrw golwg dros y garfan.

Yn ogystal â hynny mae ambell bwnc trafod arall yn dwyn y sylw, gan gynnwys sylwadau Ryan Giggs am y grŵp Ewro 2016 a rhai o’r caneuon pêl-droedaidd fyddwn ni’n eu clywed dros y misoedd i ddod.