Warren Gatland
Mae hyfforddwr Cymru, Warren Gatland wedi ymddiheuro am awgrymu mai “banter” oedd y sylw a wnaed gan brop Lloegr, Joe Marler am dras ethnig prop Cymru, Samson Lee.

Cafodd Marler ei glywed ar feicroffon y dyfarnwr yn ystod yr ornest Chwe Gwlad rhwng Cymru a Lloegr yn Twickenham yn defnyddio’r term “gypsy boy”, gan dynnu sylw at y ffaith fod Lee yn aelod o’r gymuned sipsiwn Romani.

Mae trefnwyr Pencampwriaeth y Chwe Gwlad wedi dweud eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad, a allai arwain at waharddiad i Marler.

Datganiad Gatland

Mewn datganiad, dywedodd Warren Gatland: “Dydw i ddim yn cymeradwyo hiliaeth o unrhyw fath. Rwy’n ymddiheuro am unrhyw sarhad a gafodd ei achosi gan fy nefnydd o’r gair ‘banter’.”

Ychwanegodd mai ei fwriad oedd “tynnu’r sylw oddi ar Samson” fel y gallai ef a charfan Cymru ganolbwyntio’n llwyr ar eu paratoadau ar gyfer yr ornest yn erbyn Yr Eidal ar ddiwrnod ola’r gystadleuaeth.

Dywedodd nad oedd Samson Lee o’r farn fod sylwadau Marler yn rhai “bwriadol hiliol”, gan ychwanegu fod ymddiheuriad Marler wedi’i dderbyn gan Lee.

Datganiad Undeb Rygbi Cymru

Mewn datganiad, dywedodd llefarydd ar ran Undeb Rygbi Cymru eu bod yn gobeithio am “ddiweddglo cyflym” i’r ymchwiliad i’r sylwadau, gan ychwanegu eu bod nhw’n cydnabod fod Warren Gatland wedi bwriadu “gwarchod Samson”.

Datganiad Lee

Mae Samson Lee yntau wedi siarad yn gyhoeddus am y tro cyntaf ers i’r sylwadau ddod i’r amlwg.

Mewn datganiad, dywedodd: “Hoffwn egluro fy safbwynt. Rwy’n sefyll ochr yn ochr â Warren.

“Yn bersonol, rwy’n credu mai “banter” oedd bwriad y sylwadau ac fe wnes i dderbyn ymddiheuriad Joe ddydd Sadwrn.

“Mae Warren yn gwarchod y tîm i’r eithaf ac fe wnaeth ei sylwadau ar sail sgyrsiau gyda fi, gyda’r bwriad o dynnu sylw oddi arna i.”