Mae Fifa wedi cyfaddef am y tro cyntaf fod pleidleisiau wedi cael eu prynu’n anghyfreithlon yn ystod y broses geisiadau i gynnal Cwpan y Byd yn 1998 a 2010.

Cafodd y gystadleuaeth ei chynnal yn Ffrainc yn 1998 ac yn Ne Affrica yn 2010.

Ond mae Fifa yn ceisio adennill degau o filiynau o ddoleri a gafodd ei gymryd oddi arnyn nhw gan erlynwyr yn yr Unol Daleithiau fel rhan o’r ymchwiliad i daliadau llwgr.

Mae Fifa wedi cyflwyno dogfen 22 tudalen i swyddfa Twrnai Cyffredinol yr Unol Daleithiau yn hawlio eu bod nhw’n haeddu cyfran o’r arian a gafodd ei dynnu oddi ar swyddogion pêl-droed a marchnata wedi iddyn nhw bledio’n euog i dwyll.

Mae disgwyl i swyddogion gasglu degau o filiynau o ddoleri unwaith eto pan gaiff y swyddogion eu dedfrydu.

Mae Fifa yn honni eu bod nhw wedi cael eu twyllo gan unigolion, er gwaethaf cyhuddiadau bod twyll yn rhan annatod o’r sefydliad ers degawdau.

‘Niwed difrifol’ 

Mewn datganiad, dywedodd llywydd Fifa, Gianni Infantino: “Roedd y diffinyddion a gafwyd yn euog wedi camddefnyddio eu safleoedd a ymddiriedwyd iddyn nhw yn Fifa a sefydliadau pêl-droed rhyngwladol eraill, gan achosi niwed difrifol a pharhaus i Fifa.

“Roedd yr arian roedden nhw wedi’i roi yn eu pocedi’n eiddo’r byd pêl-droed ac i fod i gael ei ddefnyddio at ddatblygu a hyrwyddo’r gêm.

“Mae Fifa, fel corff llywodraethu pêl-droed, yn dymuno cael yr arian yn ôl ac rydym yn benderfynol o’i gael pa mor hir bynnag y mae’n ei gymryd.”