Cafodd sylwadau Joe Marler (uchod) eu clywed gan wylwyr teledu dros feicroffon y dyfarnwr Craig Joubert (llun: David Davies/PA)
Roedd y cyfryngau cymdeithasol yn frith o sylwadau yn dilyn yr ornest rhwng Cymru a Lloegr ddydd Sadwrn ar ôl i un o chwaraewyr tîm Lloegr gael ei glywed ar feicroffon yn galw prop Cymru yn ‘gypsy boy’.
Ers hynny mae Joe Marler wedi ymddiheuro wrth Samson Lee, gafodd ei fagu mewn cymuned sipsiwn Romani ac sydd wedi siarad am ba mor falch yw e o’i wreiddiau yn y gorffennol.
Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland hefyd wedi dweud nad oes angen gwneud “mor a mynydd” o’r digwyddiad, gan mai dim ond ychydig o ‘banter ar y cae rygbi’ ydoedd a bod y ddau chwaraewr wedi symud ymlaen.
Ond mae cyn-chwaraewr Cymru Gareth Thomas wedi anghytuno gan gyhuddo Gatland o feddwl am “esgus gwael”, gydag eraill yn dweud bod angen gwneud safiad yn erbyn sylwadau hiliol o’r fath.
‘Banter’ neu ddim?
Beth yw’ch barn chi? Ai dim ond ychydig o dynnu coes a herio ar y cae rygbi oedd hyn, fel y dywedodd Gatland, a rhan naturiol o unrhyw gêm?
Os yw’r ddau chwaraewr yn hapus i adael y peth i fod ar ôl dod oddi ar y cae, oni ddylai hynny fod yn ddigon? Oes peryg bod yn rhy ‘wleidyddol gywir’ am y pethau hyn?
Neu oes angen condemnio sylwadau o’r fath yn fwy pendant, a dangos esiampl drwy gosbi chwaraewyr sy’n eu gwneud nhw?
Yw hi’n bryd newid meddylfryd rhai a phwysleisio nad yw sylwadau o’r fath yn dderbyniol bellach, yn enwedig o ystyried y dylanwad posib ar y rheiny sy’n gwylio’r gêm ac allai fod wedi clywed y sarhad ar y teledu?