Dim ond 'ychydig o hwyl ar y car rygbi' oedd sylwadau Joe Marler, yn ôl Warren Gatland (llun: Gareth Fuller/PA)
Mae Warren Gatland wedi cythruddo cefnogwyr rygbi ar ôl disgrifio’r ffrwgwd rhwng Joe Marler a Samson Lee, pan gafodd prop Cymru ei alw’n ‘gypsy boy’, fel “banter”.

Fe ymddiheurodd Marler wrth Lee ar ôl gwneud y sylwadau yn ystod y gêm Chwe Gwlad rhwng Lloegr a Chymru ddydd Sadwrn, ond mae ymchwiliad i’r digwyddiad yn parhau.

Ond yn ôl Gatland “dim ond ychydig o hwyl ar y cae rygbi oedd e”, ac fe ddywedodd ei fod e’n poeni mwy am ddigwyddiad arall ble tarodd Marler yn erbyn prop Cymru Rob Evans â’i fraich.

Ond mae hynny wedi digio rhai cefnogwyr, sydd wedi cwestiynu a fyddai hyfforddwr Cymru’n dweud yr un peth petai sylw sarhaus am chwaraewr o hil arall wedi cael ei wneud.

‘Sortio mas gyda dyrnau’

Mae cyn-seren Cymru Gareth Thomas ymysg y rheiny sydd wedi beirniadu safbwynt Gatland, gan ddweud ar Twitter nad oedd yn “gallu cytuno fod hyn yn banter”.

Yn gynharach, roedd is-hyfforddwr Cymru Rob Howley wedi dweud “nad oes lle yn y gêm” i sylwadau hiliol o’r math yr oedd Marler wedi’i wneud, ond roedd Gatland fel petai â barn wahanol.

“Does gennym ni ddim problem. Dim ond ‘chydig o hwyl oedd e cyn belled â dw i yn y cwestiwn. Dyna sut mae Samson wedi’i gweld hi,” meddai Gatland.

“Fe ddywedodd Joe wrtho hanner amser mai dim ond ‘chydig o hwyl oedd hi, ac fe ddywedodd Samson nad oedd ganddo broblem. Dim ond banter ar y cae rygbi oedd e.

“Pymtheg, ugain mlynedd yn ôl, byddai’r math yna o beth wedi cael ei sortio mas gyda dyrnau. D’yn ni ddim eisiau gwneud mor a mynydd o’r peth.”