Osian Roberts yn cofleidio'r dyn ei hun ar ôl iddo sgorio'r gôl fuddugol yn erbyn Cyprus llynedd - ond o ble ddaw'r Gareth Bale nesaf? (llun: CBDC)
Iolo Cheung fu’n holi Osian Roberts am sut mae Cymru’n edrych tua’r dyfodol…

Yn ddiweddar mi fues i draw i Barc y Ddraig yng Nghasnewydd i sgwrsio ag Osian Roberts – efallai bod rhai ohonoch chi eisoes wedi darllen yr erthygl fuodd mewn rhifyn diweddar o Golwg.

Roedd hi’n gyfle i gael cip tu ôl i’r llen yng nghanolfan bêl-droed cenedlaethol Cymru yn ogystal â gwrando ar is-reolwr Cymru wrth iddo redeg sesiwn i hyfforddwyr clybiau lleol.

Rydyn ni bellach yn gyfarwydd ag Osian Roberts fel llaw dde Chris Coleman, rhan annatod o staff hyfforddi’r tîm cenedlaethol sydd yn paratoi ar gyfer Ewro 2016 yr haf yma.

Ond fel Cyfarwyddwr Technegol Ymddiriedolaeth Bêl-droed Cymru mae gan y gŵr o Fôn swydd bwysig arall – sicrhau bod sêr y dyfodol yn cael pob cyfle i feithrin eu potensial.

‘Nid ennill sy’n bwysig’

Un o’r pethau roedd Osian Roberts yn awyddus i’w bwysleisio yn ei sgwrs oedd pwysigrwydd magu techneg a hyder ar y bêl o oed ifanc, a bod yn barod i adael i chwaraewyr fentro a gwneud camgymeriadau.

Mae’n neges sydd yn gallu bod yn anodd ei drosglwyddo weithiau i blant a rhieni – bod chwarae’r ffordd iawn a dysgu wrth fynd ymlaen yn bwysicach nag ennill ar lefel ieuenctid.

Ond yn y bôn mae hynny i gyd yn rhan o addysg pêl-droediwr ifanc, meddai’r hyfforddwr, sydd yn awyddus i weld y ‘Ffordd Gymreig’ o chwarae yn cael ei annog ar lawr gwlad yn ogystal â’r lefelau uchaf.

Wedi’r cyfan, pwy sydd â syniad faint o gemau ieuenctid enillodd Gareth Bale, Aaron Ramsey ac Ashley Williams pan oedden nhw’n ifanc – a beth yw’r ots?

Dyma flas i chi o’r sgwrs gydag Osian Roberts yn trafod y ffordd mae’r genhedlaeth nesaf o sêr Cymru yn cael eu datblygu:

Gallwch wylio rhan gyntaf sgwrs Iolo Cheung ag Osian Roberts, yn trafod paratoadau’r tîm cyn Ffrainc, drwy ddilyn y linc canlynol.