Maria Sharapova
Mae tri o brif noddwyr Maria Sharapova bellach wedi pellhau eu hunain oddi wrth y seren denis ar ôl iddi fethu prawf cyffuriau.
Fe benderfynodd Nike atal eu cytundeb â’r bencampwraig o Rwsia yn dilyn y cyfaddefiad, gyda Tag Heuer a Porsche hefyd wedi gwneud yr un peth bellach.
Fe gyhoeddodd Sharapova, 28, ddydd Llun ei bod hi wedi methu’r prawf ar ôl i gyffur melodonium gael ei ganfod yn ei system.
Roedd hi wedi bod yn ei gymryd ers deng mlynedd am resymau meddygol, meddai, ond ar 1 Ionawr 2016 fe gafodd y cyffur ei ychwanegu at y rhestr waharddedig ar ôl i dystiolaeth ddangos ei fod yn gallu gwella perfformiad.
Gobeithio am ‘gyfle arall’
Maria Sharapova yw’r athletwraig sydd wedi gwneud y mwyaf o arian yn y byd dros yr 11 mlynedd ddiwethaf, gyda’i chytundebau masnachol hi’n dod â thipyn mwy o arian na gwobrau ariannol y cystadlaethau tenis.
Fe enillodd hi Wimbledon nôl yn 2004 pan oedd hi yn 17 oed, ac ers hynny mae wedi cipio pob un o’r tlysau Grand Slam yn ystod ei gyrfa.
Ond yn ystod y blynyddoedd diwethaf mae hi wedi cael trafferthion ag anafiadau, ac mae hi nawr yn wynebu gwaharddiad hir o’r gamp – dwy flynedd os yw hi’n cael ei chanfod yn euog o gymryd y cyffur yn anfwriadol, neu hyd at bedair os yn fwriadol.
“Doeddwn i ddim eisiau gorffen fy ngyrfa yn y ffordd yma a dw i wir yn gobeithio y caf i gyfle arall i chwarae’r gêm yma,” meddai Sharapova.