Rhai o aelodau tîm pêl-rwyd Machynlleth orffennodd yn ail yn y gynghrair eleni
Enw: Clwb Pêl-rwyd Machynlleth
Ffurfiwyd: 1980au
Gemau: Nos Iau yng Nghanolfan Hamdden Machynlleth
Lliwiau: Piws a Du
Pêl-rwyd sy’n mynd â’n sylw ni’r wythnos hon wrth i Dîm yr Wythnos droedio ein ffordd i fyny i Fachynlleth – ac fe gewch chi hanes nid yn unig y clwb, ond y gynghrair!
Clwb Pêl-rwyd Machynlleth sy’n gyfrifol am drefnu Cynghrair Bêl-rwyd Machynlleth, a thymor yma mae 10 o dimau, y nifer fwyaf erioed, wedi ymuno â’r gynghrair.
Yn ogystal â dau dîm o Fachynlleth, mae dau dîm o Ysgol Bro Hyddgen, dau dîm o Brifysgol Aberystwyth, tîm o Ddolgellau, tîm o Ddinas Mawddwy, tîm Y Geltaidd, a thîm Penglais hefyd yn cystadlu.
‘Ymlaen at y nesaf!’
Daeth Cynghrair y Gaeaf i ben yr wythnos diwethaf, gyda thîm Dinas Mawddwy yn fuddugol, a bydd Cynghrair yr Haf yn dechrau ym mis Ebrill.
Am y tro cyntaf ers sawl blwyddyn mae dau dîm gan glwb Machynlleth sef Y Gweilch a’r Dreigiau, gydag oedrannau’r chwaraewyr yn amrywio o 19 mlwydd oed hyd at 62.
“Mae hi wedi bod yn gynghrair anodd eleni gyda sawl tîm da iawn yn cystadlu,” meddai Lowri Davies, capten Dreigiau Machynlleth.
“Mae nifer o aelodau newydd yn ein tîm ni eleni, felly mae’n cymryd amser i gymysgu fel tîm.
“Mae’r timau wedi newid dipyn yn y flwyddyn ddiwethaf, rhwng rhai’n symud i ffwrdd i weithio, anafiadau ac un yn cael babi.
“Ond braf ydi gweld mwy o aelodau brwd yn ymuno efo ni. Mae’r Gweilch wedi gwneud yn andros o dda yng Nghynghrair y Gaeaf, felly ymlaen a ni i Gynghrair yr Haf!”
Croeso i fwy
Tîm Dolgellau, a orffenodd yn drydydd yn y tabl
Clwb Pêl-rwyd Machynlleth sydd yn trefnu’r gynghrair, ac mae gemau yn cael eu cynnal ar nos Iau yng Nghanolfan Hamdden Machynlleth rhwng 7:30yh a 9:00yh.
Mae croeso i glybiau newydd sydd â chwaraewyr dros 14 oed i ymuno hefyd, gyda mwy o wybodaeth i’w gael drwy dudalen Facebook Clwb Pêl-rwyd Machynlleth Netball Club.
Yn y cyfamser, gyda Machynlleth heb ennill y gynghrair ers 2008, y gobaith mawr i’r tîm felly yw y gall hynny newid yn fuan.
Canlyniadau Cynghrair y Gaeaf
Mach Gweilch (E=Ennill, C=Colli)
E 46-14 Mach Dreigiau
E 23-10 Ysgol Bro Hyddgen 1
E 42-11 Ysgol Bro Hyddgen 2
E 29-12 Y Geltaidd
E 25-16 Prifysgol Aber 1
E 27-19 Prifysgol Aber 2
C 20-35 Dinas Mawddwy
C 29-37 Penglais
E 30-15 Dolgellau
Mach Dreigiau
C 14-46 Mach Gweilch
C 11-18 Ysgol Bro Hyddgen 1
E 38-7 Ysgol Bro Hyddgen 2
E 30-23 Y Geltaidd
C 13-24 Prifysgol Aber 1
E 27-23 Prifysgol Aber 2
C 12-50 Dinas Mawddwy
C 28-38 Penglais
C 13-28 Dolgellau
Tîm pêl-rwyd Dinas Mawddwy, enillwyr y gynghrair
Canlyniad Terfynol y Gynghrair
1af Dinas Mawddwy (45 pwynt)
2il Mach Gweilch (39 pwynt, +112 gwahaniaeth gôl)
3ydd Dolgellau (39 pwynt, +83 gwahaniaeth gôl)
4ydd Y Geltaidd (29 pwynt)
5ed Penglais (24 pwynt)
6ed Mach Dreigiau (21 pwynt)
7fed Prifysgol Aber 1 (20 pwynt)
8fed Ysgol Bro Hyddgen 1 (19 pwynt)
9fed Prifysgol Aber 2 (13 pwynt)
10fed Ysgol Bro Hyddgen 2 (5 pwynt)