Rhys Webb nôl yn y garfan
Mae Rhys Webb wedi cael ei ddewis ar fainc tîm Cymru wrth iddyn nhw baratoi i herio Lloegr mewn gêm sydd yn debygol o benderfynu enillydd Pencampwriaeth y Chwe Gwlad.

Cafodd y mewnwr ei alw nôl i’r garfan yr wythnos hon ar ôl chwarae tair gêm i’r Gweilch ers gwella o anaf i’w ffêr, ond fydd e ddim yn disodli Gareth Davies ar gyfer yr ornest ddydd Sadwrn.

Does dim un newid fodd bynnag i’r pymtheg fydd yn dechrau’r gêm o’r tîm drechodd Ffrainc yn eu gêm ddiwethaf.

Mae hyfforddwr Cymru Warren Gatland wedi cynnwys Luke Charteris ar y fainc fodd bynnag ar ôl i’r clo wella o anaf i’w ben-glin.

Un newid arall sydd ar y fainc, gyda Paul James yn dod i mewn yn lle Gethin Jenkins sydd yn parhau i wella o anaf.

Profiad

“Rydyn ni wedi enwi tîm eithaf profiadol ar gyfer dydd Sadwrn, dim newidiadau i’r tîm fydd yn dechrau,” meddai Gatland.

“Dw i’n meddwl eu bod nhw wedi gwneud yn dda yn erbyn Ffrainc, ac rydyn ni eisiau job arall ganddyn nhw’r penwythnos yma. Mae cwpl o’r bois sydd nôl o anaf ar y fainc … ac mae hynny’n fonws.

“Mae lot yn y fantol ddydd Sadwrn ac fe fydd yn mynd llawer o’r ffordd at benderfynu pwy fydd yn ennill y Chwe Gwlad eleni.

“Rydyn ni’n hapus â’r cymysgedd yn y garfan. Mae gennym ni bump ôl profiadol yn y pac, a chyda’r ieuenctid yn y blaen mae hynny’n braf ei weld.

“Mae’n dda cael Rhys [Webb] nôl yn y garfan. Mae e wedi bod yn ymarfer yn galed iawn ac yn dod â thipyn o egni a phrofiad i’r tîm.”

Tîm Cymru v Lloegr:

Liam Williams; Alex Cuthbert, Jonathan Davies, Jamie Roberts, George North; Dan Biggar, Gareth Davies; Rob Evans, Scott Baldwin, Samson Lee; Bradley Davies, Alun Wyn Jones; Dan Lydiate, Sam Warburton (capt), Taulupe Faletau

Eilyddion: Ken Owens, Paul James, Tomas Francis, Luke Charteris, Justin Tipuric, Rhys Webb, Rhys Priestland, Gareth Anscombe