Mae meddygon wedi disgrifio rhai o anafiadau difrifol chwaraewyr rygbi yn eu harddegau fel y rhai sy’n cael eu gweld mewn gwrthdrawiadau ffordd.
Mewn adroddiad, maen nhw wedi dadlau bod angen newid y rheolau o gwmpas taclo neu leihau nifer y chwaraewyr mewn gemau ysgol i osgoi “goblygiadau’r anafiadau a allai fod yn ddinistriol.”
Daw eu sylwadau yn adroddiad yn y cylchgrawn meddygol Prydeinig, y BMJ, ar ôl i dros 70 o feddygon ac arbenigwyr iechyd ysgrifennu at Lywodraethau Cymru a San Steffan yn galw am wahardd taclo mewn gemau rygbi ysgolion.
Yn yr adroddiad diweddaraf, mae meddygon o adran trawma ac orthopedig yn Ysbyty Tallaght, Dulyn, wedi disgrifio tri achos lle cafodd chwaraewyr ifanc eu hanafu’n ddifrifol mewn tacl rygbi.
Yn ôl y meddygon, roedd anafiadau’r chwaraewyr yn debyg i rai “byddai rhywun yn eu cael ar ôl trawma treisgar, fel damweiniau traffig ar y ffordd.”
‘Angen newid rheolau’
Roedd y chwaraewyr, a ddioddefodd anafiadau fel torri asgwrn neu ddatgymalu eu cluniau, rhwng 13 ac 16 oed pan gawson nhw eu hanafu.
“Er mwyn osgoi goblygiadau’r anafiadau hyn a allai fod yn ddifrifol, mae angen newid rheolau neu gyfyngu ar faint y gêm i bobol ifanc,” meddai’r meddygon
Dydy’r meddygon heb alw am wahardd taclo mewn gemau ysgol ond roedd yr adroddiad yn pwysleisio’r angen am “werthuso’r rheolau” a rhoi “pwyslais ar daclo cywir”.