Bale ar glawr y gêm gyda'i ddathliad 'calon' adnabyddus (llun:UEFA)
Mae Gareth Bale wedi cael ei ddewis i fod ar glawr y gêm gyfrifiadurol swyddogol fydd yn cael ei ryddhau ar gyfer Ewro 2016.
Fe fydd y gêm, sydd yn cael ei ryddhau gan Konami o dan label Pro Evolution Soccer, yn rhoi cyfle i chwaraewyr chwarae gyda’u hoff dîm yn y bencampwriaeth.
Mae gemau swyddogol o’r fath yn cael eu rhyddhau’n gyson cyn Pencampwriaethau Ewrop – ond dyma’r tro cyntaf i’r Cymry gael lle amlwg arnynt.
Serch hynny, fe fydd hi’n dipyn o hwb i broffil y tîm fod Bale wedi cael ei ddewis o flaen sêr mawr eraill fel Cristiano Ronaldo o Bortiwgal, Wayne Rooney o Loegr, Paul Pogba o Ffrainc neu Robert Lewandowski o Wlad Pwyl.
Bale yn ffit
Mae disgwyl i Gareth Bale fod yn ffit ar gyfer gemau paratoadol Cymru ar ddiwedd y mis yn erbyn Gogledd Iwerddon a’r Wcráin, ar ôl dychwelyd o anaf i groth ei goes yn ddiweddar.
Dim ond un gêm gyfeillgar arall fydd gan Gymru ar ôl mis Mawrth – i ffwrdd yn Sweden ym mis Mehefin – cyn iddyn nhw deithio i Ffrainc ar gyfer Ewro 2016.
Bydd tîm Chris Coleman yn wynebu Slofacia, Lloegr a Rwsia yn eu grŵp gan obeithio gorffen yn y trydydd safle neu uwch er mwyn cyrraedd y rownd nesaf.
Mae disgwyl y bydd o leiaf 10,000 o Gymry yn teithio allan yno rywbryd yn ystod y gystadleuaeth i weld Cymru mewn rowndiau terfynol twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers 58 mlynedd.