Mo Farah
Fe fydd Mo Farah yn arwain tîm Prydain wrth iddyn nhw gystadlu ym Mhencampwriaethau Hanner Marathon y Byd yng Nghaerdydd ddiwedd y mis.

Mae’r Cymro Dewi Griffiths hefyd ymysg y pump sydd wedi cael eu dewis yn nhîm y dynion ar gyfer y ras, yn dilyn cadarnhad gan British Athletics.

Bydd Callum Hawkins, Matthew Hynes a Ryan McLeod hefyd yn rasio yn nhîm y dynion, tra bydd Alyson Dixon, Rachel Felton, Charlotte Purdue, Jenny Spink a Gemma Steel yn rhedeg dros dîm y merched.

Croeso cynnes

Dyma’r tro cyntaf y bydd Mo Farah wedi cystadlu yn y bencampwriaeth, gyda ras Caerdydd yn cael ei chynnal ddydd Sadwrn 26 Mawrth.

Fe all y pencampwr Olympaidd, yn ogystal â Dewi Griffiths sydd wedi bod yn bencampwr traws gwlad Cymru bum gwaith, ddisgwyl cefnogaeth frwd gan dorfeydd y brifddinas.

“Rydw i wastad yn mwynhau rasio o flaen torf gartref a dw i’n siŵr y byddan nhw’n rhoi cefnogaeth wych i mi a gweddill tîm Prydain wrth iddyn nhw leinio strydoedd y ddinas,” meddai Mo Farah, sydd yn dal record Ewropeaidd yr hanner marathon.