Ifan Morgan Jones sy’n dweud nad oes angen gwyliau i wylio Bale yn mynd drwy ei bethau.

Mae Plaid Cymru wedi galw am ddiwrnod sifig o wyliau cenedlaethol er mwyn caniatáu i bawb yn y wlad gael gwylio gêm Cymru yn erbyn Lloegr yn Ewro 2016.

Mae modd arwyddo’r ddeiseb yma.

Dydw i ddim yn gefnogwr brwd i’r syniad, rhaid cyfaddef.

Rwy’n deall bod Plaid Cymru wedi galw am wyliau yn ystod y gêm hon, yn hytrach na’r gemau yn erbyn Rwsia a Slofacia, am mai dyma’r unig gêm sydd yn ystod oriau gwaith y mwyafrif.

Mae’r gemau eraill am 8yh ac ar y penwythnos.

Serch hynny, mae’n esgus i’w gelynion awgrymu mai ryw fath o agwedd ‘as long as we beat the English’ sydd y tu ôl i feddylfryd cenedlaetholwyr Cymru.

Dydw i ddim yn gefnogwr brwd i ddefnyddio chwaraeon fel modd o hybu cenedlaetholdeb – fel yr ydw i wedi ei ddadlau o’r blaen. Cenedlaetholdeb arwynebol iawn ydyw ar y cyfan.

Hygrededd

Y cwestiwn allweddol yw, a yw Plaid Cymru wir yn disgwyl y bydd yr ŵyl genedlaethol hon yn cael ei ganiatáu gan Lywodraeth San Steffan?

Os na, ac mae’n annhebygol y bydd (o ystyried eu hamharodrwydd i ganiatáu urddo 1 Mawrth yn wyliau cenedlaethol), beth yw’r pwynt galw am y fath beth?

Ni ddylai pleidiau gwleidyddol ddechrau ymgyrchoedd nad ydyn nhw’n disgwyl eu hennill, am mai’r unig ganlyniadau posib yw methu, neu gael eich gweld fel plaid sydd ddim yn gyfan gwbl o ddifrif.

A yw’n bwnc digon pwysig iddynt fod yn gwario cyfalaf gwleidyddol arno? A fyddent yn bodloni ar gonsesiynau eraill er mwyn sicrhau ei fod yn rhan o gytundeb clymblaid?

Anodd credu.

Ac, os wisgo fy het Tori am funud, beth fydd effaith diwrnod o wyliau i bawb yn y wlad ar yr economi?

Does gen i, fel sawl un arall, ddim diddordeb eithriadol mewn gwylio pêl-droed. Ac rwy’n siŵr bod gan y rheini sy’n torri bol eisiau gwylio’r gêm ddigon o wyliau er mwyn cymryd prynhawn o’r gwaith os oes wir angen.

Mae’n gwyn cyson bod tîm rygbi Cymru yn cael gormod o sylw, wrth i’r cyfryngau awgrymu bod y genedl gyfan yn eu cefnogi’r frwd, tra nad oes gan lawer, yn enwedig tua’r gogledd, lawer o ddiddordeb mewn gwirionedd.

Mae datgan y byddai pawb yng Nghymru am gymryd diwrnod oddi ar y gwaith er mwyn cefnogi y tîm pêl-droed yr un mor ryfygus.