Aaron Ramsey yn herio Idrissa Gueye o Aston Villa dros y penwythnos (llun: David Davies/PA)
Wrth i Gymru ddarganfod dros y penwythnos pwy fydd eu gwrthwynebwyr nhw yn Ewro 2016 y flwyddyn nesaf, roedd y chwaraewyr wrth gwrs yn brysur yn chwarae dros eu clybiau.

Bydd y chwe mis nesaf cyn i’r crysau cochion herio Slofacia, Lloegr a Rwsia yn sbel o aros i’r cefnogwyr, ac yn y cyfamser fe fyddwn ni fel yr arfer yn cadw llygad ar hynt a helynt y Cymry yn ystod y tymor.

Un chwaraewr y bydd Coleman yn gweddïo ei weld yn ffit ac yn tanio fydd Aaron Ramsey, oedd yn seren y gêm unwaith eto i Arsenal yng nghanol cae wrth iddyn nhw drechu Aston Villa 2-0 ddydd Sul.

Fe sgoriodd Ramsey ail gôl y Gunners ac mae’n sicr i’w weld yn elwa o gyfnod yn chwarae lawr y canol i’w dîm ar hyn o bryd.

Yr Uwch Gynghrair

Cafodd Wayne Hennessey ei ganmol hefyd yn y gôl i Crystal Palace am ddau arbediad campus wrth i’w dîm o ennill 1-0 yn erbyn Southampton.

Ond parhau wnaeth trafferthion Ashley Williams a Neil Taylor yn amddiffyn Abertawe wrth iddyn nhw ildio gôl hwyr i golli o 2-1 i Man City.

Fe chwaraeodd James Collins gêm lawn i West Ham wrth iddi orffen yn gyfartal rhyngddyn nhw a Stoke, ac roedd Adam Matthews ar fainc Sunderland.

Ar y fainc unwaith eto oedd Joe Allen a James Chester wrth i Lerpwl a West Brom gael gêm gyfartal 2-2.

Ymysg yr eilyddion hefyd oedd Ben Davies wrth i Spurs golli gartref o 2-1 yn erbyn Newcastle a Paul Dummett.

Colli hefyd oedd hanes Gareth Bale gyda Real Madrid wrth iddyn nhw ddisgyn yn bellach y tu ôl i Barcelona ar frig La Liga ar ôl i Villarreal eu trechu o 1-0.

Y Bencampwriaeth

Yn y Bencampwriaeth, fe fethodd Emyr Huws gic o’r smotyn i Huddersfield a chael ei eilyddio ar ôl 12 munud gydag anaf wrth iddyn nhw golli o 2-1 yn erbyn Bristol City, oedd â Wes Burns ar y fainc.

Ildiodd Jazz Richards gic o’r smotyn wrth i’r gêm rhwng Fulham a Brentford orffen yn 2-2, ac fe fethodd Sam Vokes gyfleoedd i Burnley wrth iddyn nhw gael gêm di-sgôr yn erbyn QPR.

Roedd Hal Robson-Kanu nôl o anaf er mwyn dechrau i Reading wrth i’w dîm o a Chris Gunter golli 1-0 yn Preston, ac fe ddechreuodd Tom Lawrence ac Adam Henley i Blackburn wrth iddyn nhw drechu Rotherham 1-0.

Yn y gêm nos Wener rhwng Wolves a Nottingham Forest fe chwaraeodd Dave Edwards a David Vaughan gemau llawn, gyda pherfformiad Vaughan yn dal y llygad, tra bod Jonny Williams wedi dod oddi ar y fainc.

Ond cael ei adael ar y fainc wnaeth Morgan Fox wrth i Charlton gadw llechen lân a chael gêm gyfartal ddi-sgôr gyda Leeds i’w codi nhw allan o’r tri isaf.

Seren yr wythnos – Wayne Hennessey. Mae Julian Speroni ac Alex McCarthy yn ffit bellach, ond fydd neb yn hawlio’r crys rhif un oddi ar Hennessey os yw’n parhau i chwarae fel hyn.

Siom yr wythnos – Emyr Huws. Methu cic o’r smotyn ac yna cael ei anafu. Dim ond gobeithio ei fod yn ymarfer rhag ofn y bydd ei angen mewn shoot out yn yr Ewros!