Leanne Wood
Yn dilyn y cyhoeddiad dros y penwythnos y bydd Cymru’n wynebu Lloegr yn Ewro 2016, mae Arweinydd Plaid Cymru wedi galw am ddiwrnod i ffwrdd i weithwyr ar ddiwrnod y gêm.

Fe fydd Cymru yn chwarae Lloegr am 2pm yn stadiwm Lens, dydd Iau, Mehefin 16, wrth iddyn nhw chwarae yn Grŵp B yn erbyn Slofacia, Lloegr a Rwsia.

Ond, efallai y byddai nifer yn colli’r gêm oherwydd ymrwymiadau gwaith ac addysg. Mae disgwyl i gwmnïau darlledu hefyd alw ar UEFA i newid amser y gêm, fel y bydd mwy yn medru ei gwylio.

Dyma’r tro cyntaf i dîm pêl droed Cymru gyrraedd rowndiau terfynol y twrnament ers 1958 ac, yn ôl Leanne Wood, “mae llwyddiant hanesyddol tîm pêl-droed cenedlaethol Cymru wedi creu ton o gyffro ledled y wlad.”

‘Diwrnod sifig’

Fe esboniodd yr Arweinydd y bydd Cymru’n wynebu Slofacia ar ddydd Sadwrn a Rwsia ar nos Lun, felly “y gêm yn erbyn Lloegr yw’r unig un fydd yn cymryd lle ar brynhawn yn yr wythnos.”

“Yn sgil hyn, hoffwn weld 16 Mehefin 2016 yn cael ei ddatgan yn ddiwrnod sifig fydd yn galluogi pob gweithiwr sydd â diddordeb i gael amser i ffwrdd o’r gwaith i fwynhau’r gêm a chefnogi’r tîm gan anfon neges glir fod Cymru gyfan y tu ôl iddynt.”

Fe ychwanegodd fod “chwaraeon wastad wedi bod yn rym effeithiol wrth ddod â phobl ynghyd. Byddai Llywodraeth Plaid Cymru yn gwneud popeth o fewn eu gallu i wneud y mwyaf o’r cyfle euraidd hwn i arddangos talent Cymreig i’r byd a magu hyder ein cenedl arbennig yn y broses.”