Bydd Osian Roberts a Chris Coleman yn brysur gyda'u paratoadau dros y misoedd nesaf (llun: CBDC)
Mae is-reolwr Cymru Osian Roberts wedi dweud wrth Golwg360 na fydd y ffaith bod Lloegr yn eu grŵp ar gyfer Ewro 2016 yn newid unrhyw beth am eu paratoadau ar gyfer y gystadleuaeth.
Ar ôl i reolwr Cymru Chris Coleman ddweud ei fod yn awyddus i osgoi herio’r Saeson yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, roedd rhyw deimlad anochel wrth i’r ddwy wlad gael eu dewis gyda’i gilydd yng Ngrŵp B.
Bydd y crysau cochion hefyd yn herio Slofacia a Rwsia yn y grŵp, gyda’r gêm gyntaf yn cael ei chwarae yn erbyn y Slofaciaid yn Bordeaux ar 11 Mehefin.
Canolbwyntio ar Slofacia
Mae hynny’n golygu, yn ôl Osian Roberts, na fydd Coleman a’i dîm yn treulio gormod o amser yn poeni am herio’r Saeson yn Lens pum diwrnod yn ddiweddarach.
“Dydi o ddim yn wahanol i’r gemau eraill i fod yn onest, maen nhw i gyd yr un mor bwysig i ni,” meddai’r is-reolwr.
“Pwy bynnag fuasen ni ‘di chwarae yn yr ail gêm, pwysigrwydd y gêm gyntaf yna ydi ein bod ni’n cael dechrau da i’r gemau.
“Felly ni wnaiff hynny [chwarae Lloegr] newid dim byd am y ffordd fyddan ni’n mynd o’i chwmpas hi. Y peth pwysig ydi’n bod ni’n canolbwyntio ar beth sydd o’n blaenau ni.”
Y cyffro’n cynyddu
Cyfaddefodd Osian Roberts ei fod yntau hefyd yn dechrau teimlo cyffro’r cefnogwyr sydd eisoes wedi dechau trefnu eu tripiau i Bordeaux, Lens a Toulouse y flwyddyn nesaf.
“Rydan ni gam yn nes at y gemau – wrth gwrs mae ‘na dipyn o amser ‘di mynd heibio ers i ni sicrhau ein lle ac mae pethau’n dod yn fwy ‘real’ fel mae amser yn mynd.
“Mae’r draw wythnos yma wedi dod a phethau’n agosach eto, felly rydan ni’n gwybod rŵan lle ‘da ni’n chwarae, lle ‘da ni’n mynd, felly mae ‘na lawer o gyffro wrth edrych ymlaen at beth sydd i ddod.”
Ychwanegodd is-reolwr Cymru bod gan y garfan hunanhyder y gallan nhw roi gêm i unrhyw un pan fyddan nhw’n cyrraedd Ffrainc.
“Dan ni’n gweld pob gêm sut allwn ni ennill, oherwydd pan ‘dan ni ar dop ein gêm rydan ni wedi profi’n barod y gallwn ni gystadlu gyda’r goreuon,” ychwanegodd Osian Roberts.
“Felly rydan ni’n hyderus yn ein gallu ein hunain.”
Rwsia’n ‘debyg i Gymru’
Gyda Rwsia a Slofacia hefyd yn cael eu dewis yn y grŵp, fe lwyddodd Cymru i osgoi rhai o’r timau cryfaf eraill y gallan nhw fod wedi’i wynebu fel Gwlad Pwyl, Sweden a’r Eidal.
Ond fe fydd Rwsia yn wrthwynebwyr cryf, ac maen nhw’n dîm tebyg i Gymru yn ôl Osian Roberts.
“Ers iddyn nhw newid rheolwr maen nhw ‘di mynd ar rediad da o gemau, mae ganddyn nhw fomentwm rŵan wrth fynd i mewn i’r flwyddyn newydd, maen nhw wastad yn dîm peryg i chwarae yn erbyn,” meddai’r hyfforddwr.
“O ran eu harddull, maen nhw’n dda yn amddiffyn ond mae ganddyn nhw elfen ymosodol gryf rŵan hefyd ac maen nhw wedi dechrau sgorio goliau’n fwy aml.
“Maen nhw’n dîm peryg ofnadwy yn gwrthymosod, sydd yn agwedd pwysig yn y gêm erbyn hyn.”
Yn wahanol i Gymru, mae gan Rwsia hefyd y profiad o fod wedi chwarae ar y llwyfan mwyaf sawl gwaith, gan gynnwys yng Nghwpan y Byd llynedd.
“Mae’n gêm anodd oherwydd mae ganddyn nhw dipyn o brofiad mewn twrnameintiau bellach,” meddai Osian Roberts.
“Roedden nhw yn y rownd gynderfynol yn Ewro 2008, felly mae ganddyn nhw chwaraewyr yn eu mysg sydd yn gwybod sut i chwarae yn y sefyllfaoedd yma, sydd yn cyfri am lot.”
Momentwm yn bwysig
Mae gan Slofacia ddau chwaraewr fydd yn adnabyddus i lawer o gefnogwyr pêl-droed, sef yr amddiffynnwr Martin Skrtel o Lerpwl a’r chwaraewr canol cae o Napoli, Marek Hamsik.
Er mai nhw sydd yn cael eu hystyried fel tîm gwanaf y grŵp gan y bwcis, maen nhw hefyd wedi sicrhau sawl canlyniad da dros y flwyddyn ddiwethaf.
“Eto, mae o am fod yn anodd,” cyfaddefodd Osian Roberts.
“Os ydych chi’n edrych ar y timau, mae Slofacia wedi ennill saith o’u 10 gêm ragbrofol, curo Sbaen ar y ffordd – dim lot o dimau sy’n gwneud hynny – felly maen nhw’n dod i mewn i’r haf hefo momentwm mawr hefyd.
“Mae’r momentwm yn cyfrif am gymaint, ac mae bob un o’r timau yn ein grŵp ni yn dod i mewn iddi hefo momentwm da, a ninnau’r un fath.
“Mae hynny’n golygu y dylai pob un gêm fod yn gystadleuol iawn.”
Cyfweliad: Jamie Thomas