Iolo Cheung
Iolo Cheung sy’n asesu’r cystadleuwyr … a lle mae tîm Cymru’n sefyll

Union flwyddyn i heddiw fe fydd strydoedd Paris yn llawn dathlu a gorfoledd wrth i un tîm lwcus godi tlws Henri Delaunay a chael eu coroni’n bencampwyr pêl-droed Ewrop.

Mi fydd ffeinal Ewro 2016 yn cael ei chwarae ar 10 Gorffennaf 2016, a sawl un o’r ceffylau blaen Ewropeaidd yn breuddwydio – ac yn disgwyl – mynd yr holl ffordd.

Rydan ni eisoes dros hanner ffordd drwy’r ymgyrch ragbrofol, fydd yn dod i ben yn yr hydref pan gawn ni wybod pwy fydd y 24 tîm yn mentro i Ffrainc.

Pwy fydd y timau cryfaf yn y gystadleuaeth, felly? Fydd Cymru yn ymuno â nhw yno? A pha siawns fyddai gan dîm Chris Coleman yn y twrnament ei hun?

Grwpiau’n siapio

Gyda’r ymgyrch rhagbrofol bellach dros hanner ffordd, mae gennym ni syniad gweddol dda bellach o ba dimau sydd fwyaf tebygol o gyrraedd yr Ewros haf nesaf.

Mae’r ddau dîm uchaf ym mhob grŵp yn ennill eu lle yn y twrnament yn ogystal â’r tîm gorau sy’n gorffen yn drydydd, gyda gweddill y rhai sy’n drydydd yn wynebu gêm ail gyfle.

Yng Ngrŵp A mae Gwlad yr Iâ mewn safle cryf iawn ar y brig, gyda’r Weriniaeth Tsiec yn ail a’r Iseldiroedd felly mwy na thebyg yn wynebu gorffen yn drydydd.

Cymru sydd yn arwain y ffordd yng Ngrŵp B gyda Gwlad Belg ddim yn bell y tu ôl, ac fe fyddai’r arian call yn mynd ar y ddau yna’n cael cyntaf ac ail gyda Bosnia’n bachu’r trydydd safle.

Yng Ngrŵp C mae Slofacia wedi ennill pob gêm gyda Sbaen hefyd yn debygol o orffen yn y ddau uchaf, a’r Wcrain yn gobeithio am gyfle i sbwylio’r parti.


Gareth Bale yn dathlu'r gôl a drechodd Gwlad Belg ym mis Mehefin (llun: David Davies/PA)
Gwlad Pwyl a’r Almaen ydi’r ceffylau blaen yng Ngrŵp D, ond dydi’r Alban a Gweriniaeth Iwerddon ddim yn bell y tu ôl iddyn nhw a mwyaf tebyg y ddau yna fydd yn brwydro am y trydydd safle.

Mae Lloegr yn reit saff o’u lle ar frig Grŵp E, a’r unig frwydr fawr fydd rhwng y Swistir a Slofenia am yr ail safle.

Mae gan Ogledd Iwerddon siawns dda o orffen yn y ddau uchaf yng Ngrŵp F ond mae ganddyn nhw gêm fawr yn erbyn Hwngari, sydd yn gobeithio’u dal nhw, ym mis Medi gan fod Rwmania’n debygol o ennill y grŵp.

Awstria a Sweden sydd yn arwain y ffordd yng Ngrŵp G felly mae’n debygol o fod rhwng Rwsia a Montenegro am y trydydd safle.

Croatia a’r Eidal sydd yn debygol o orffen yn y ddau safle uchaf yng Ngrŵp H, gyda Norwy a Bwlgaria yn debygol o frwydro nes y diwedd am y trydydd safle.

Ac yng Ngrŵp I mae Portiwgal, Denmarc ac Albania mewn brwydr agos dair ffordd ar gyfer y tri safle uchaf wrth geisio cyrraedd Ewro 2016.

Y ceffylau blaen

Pwy fydd y ceffylau blaen felly pan fydd y twrnament yn dechrau yn Ffrainc ar 10 Mehefin y flwyddyn nesaf? Mae’n anodd gweld unrhyw un heblaw am Yr Almaen yn ffefrynnau, a hwythau wedi ennill Cwpan y Byd llynedd gyda charfan yn llawn sêr Ewropeaidd.


Yr Almaen yn dathlu ennill Cwpan y Byd 2014 (llun:PA)
Mae sawl un o garfan Bayern Munich yn amlwg yn eu tîm fel Neuer, Schweinsteiger, Gotze a Thomas Muller, yn ogystal ag enwau mawr o Dortmund fel Mats Hummels a Marco Reus, ac fe ddangoson nhw ym Mrasil llynedd eu bod nhw’n dîm ymosodol peryglus a chyffrous.

Fe fydd Ffrainc hefyd yn fygythiad, fel y tîm cartref fydd yn disgwyl cyrraedd y ffeinal er mwyn cyrraedd eu disgwyliadau uchel nhw. Fe gawson nhw Gwpan y Byd da llynedd hefyd, ond mae’r rheolwr Didier Deschamps dal yn ceisio penderfynu beth yw ei dîm cryfaf.

Allwch chi ddim diystyru Sbaen chwaith, er gwaethaf blwyddyn gymharol sâl iddyn nhw ar y llwyfan rhyngwladol. Nhw yw deiliaid y gystadleuaeth ac mae un cip ar eu carfan yn dweud wrthoch chi bod ganddyn nhw ddigon o allu i guro unrhyw un.

Mae Lloegr yn hedfan yn braf drwy eu hymgyrch ragbrofol ar hyn o bryd (er bod pawb yn gwybod fod y canlyniadau da’n tueddu dod i ben yn y twrnament ei hun!) ac mae’r Eidal a’r Iseldiroedd wastad yn gystadleuol hefyd.

Bydd Gwlad Belg yn awyddus i wneud yn well na rownd wyth olaf Cwpan y Byd llynedd, gyda chymaint o bobl yn disgwyl i’w cenhedlaeth aur nhw wneud yn dda, a fyswn i ddim yn synnu gweld timau fel Slofacia, Gweriniaeth Tsiec a Croatia yn gwneud yn dda.

A Chymru?


Chris Coleman fydd yn gobeithio arwain Cymru i'r Ewros (llun: CBDC)
A beth am Gymru? Mi fydd unrhyw gefnogwr sydd wedi gwylio’n tîm cenedlaethol ni dros y blynyddoedd yn gwybod i beidio â chyffroi’n rhy fuan.

Ond gyda thîm Chris Coleman mewn safle gwych yn eu grŵp ar hyn o bryd, a dwy fuddugoliaeth yn eu pedair gêm nesaf yn erbyn Cyprus, Israel, Bosnia ac Andorra yn siŵr o fod yn ddigon, mae’r freuddwyd yn un realistig bellach.

Mae digon o frwdfrydedd o gwmpas y tîm cenedlaethol gyda’r cadarnhad ddoe fod Cymru bellach yn ddegfed yn y byd ar restr detholion FIFA – ac yn debygol o godi eto fis nesaf.

Ac mae Thierry Henry, a enillodd Ewro 2000 gyda Ffrainc, eisoes wedi dweud y dylai Cymru fynd i Ffrainc i geisio ennill os ydyn nhw’n llwyddo i gyrraedd Ewro 2016.

Rhag ofn i chi ddechrau bwcio gwesty ar gyfer noson 10 Gorffennaf ym Mharis yn barod, fodd bynnag, rhaid cofio y byddai Cymru yn bell o fod yn geffylau blaen – maen nhw’n tua 100/1 gyda nifer o’r bwcis a rhyw ddau ddwsin o dimau o’u blaenau nhw.

Ond dydi’r tîm heb golli gêm gystadleuol ers bron i ddwy flynedd, ac yn ogystal â’r sêr mawr fel Garth Bale ac Aaron Ramsey mae’r amddiffyn yn llawer mwy cadarn bellach.

Cofiwch fod Groeg wedi ennill y gystadleuaeth nôl yn 2004 yn erbyn bob darogan a disgwyliad (ac efo odds tebyg gan y bwcis i beth sydd gan Gymru rŵan). Oes unrhyw un yn meiddio breuddwydio?