Garry Monk
Mae rheolwr Abertawe Garry Monk wedi arwyddo cytundeb newydd sydd yn para tair blynedd gyda’r clwb.
Roedd gan y rheolwr eisoes dwy flynedd yn weddill ar ei gytundeb presennol, gan olygu mai ymestyn hwnnw o flwyddyn maen nhw wedi’i wneud mewn gwirionedd.
Gorffennodd yr Elyrch yn wythfed yn yr Uwch Gynghrair y tymor diwethaf, safle uchaf erioed y clwb.
Ac mae Monk eisoes wedi bod yn cryfhau ei garfan ar gyfer tymor nesaf gan arwyddo Andre Ayew, Kristoff Nordfeldt, Franck Tabanou ac Eder.
Dros ddegawd o wasanaeth
Ers cael ei benodi i’r swydd ychydig llai na blwyddyn a hanner yn ôl mae Garry Monk eisoes wedi creu argraff gydag Abertawe, ag yntau dal ond yn 36 oed.
Roedd y 56 o bwyntiau a gawson nhw yn y gynghrair tymor diwethaf yn record i’r clwb, ac yn ystod y tymor fe drechon nhw Arsenal a Manchester United ddwywaith yr un.
Dyma fydd 11eg mlynedd Monk gyda’r clwb, ac fe chwaraeodd dros yr Elyrch 270 o weithiau wrth iddyn nhw godi drwy’r cynghreiriau.
Arian mawr
Yn ôl cadeirydd Abertawe Huw Jenkins mae’n hanfodol bod y clwb yn aros yn yr Uwch Gynghrair y tymor nesaf gan fod arian mawr o’r cytundeb teledu newydd yn dechrau cael ei ddosbarthu o 2016 ymlaen.
Ac mae’r cadeirydd yn ffyddiog mai Monk yw’r dyn i arwain nhw ymlaen.
“Fel clwb rydyn ni’n falch o ddod i gytundeb newydd gyda Garry,” meddai Huw Jenkins.
“Mae’n wobr haeddiannol am y tymor gwych rydyn ni newydd ei gael a holl waith caled, ymroddiad a theyrngarwch Garry i’r clwb pêl-droed dros nifer o flynyddoedd.
“Rydyn ni hefyd yn teimlo ein bod hi’n hanfodol cael sefydlogrwydd yn y clwb pêl-droed, yn enwedig wrth i Garry ddechrau ar dymor mawr pan mae’r wobr o aros yn yr Uwch Gynghrair yn mynd i fod yn fwy nag erioed o ran arian a sylw rhyngwladol.”