Gareth Bale yn dathlu'r gôl fuddugol nos Wener (llun: David Davies/PA)
Os ydach chi dal heb stopio gwenu, a dal heb stopio trafod y canlyniad anhygoel nos Wener diwethaf, peidiwch a phoeni – nid chi ydi’r unig rai.

Mae criw Pod Pêl-droed Golwg360 wedi bod yn eu seithfed nef byth ers i Gymru drechu Gwlad Belg 1-0 yn Stadiwm Dinas Caerdydd i symud i frig eu grŵp rhagbrofol ac o fewn cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc.

Dim ond newydd cael eu traed nôl ar y ddaear oedd Owain Schiavone, Iolo Cheung, Tommie Collins a Rhys Hartley wrth iddyn nhw ddod at ei gilydd i drafod y canlyniad mawr.

Mae tactegau Coleman, awyrgylch gwefreiddiol y dorf, mawredd y canlyniad a goblygiadau hynny ar gyfer yr ymgyrch, symud nôl i Stadiwm y Mileniwm, a’r ‘bandwagon’ i gyd yn cael eu trafod gan y pedwar.

Rydan ni hefyd yn clywed barn chwaraewr canol cae Cymru Joe Allen a’r hyfforddwr Osian Roberts am y canlyniad a’r perfformiad gwych.

Ac mae’n bosib y byddwch chi’n gyfarwydd â’r diwn sydd yn agor ein podlediad diweddaraf ni!

Gwrandwch, lawlwythwch … ac, o bosib, dechreuwch dwrio am y geiriadur Ffrangeg yna: