Mae rhanbarthau rygbi Cymru wedi darganfod heddiw pwy fydd eu gwrthwynebwyr yn y cwpanau Ewropeaidd y tymor nesaf.
Fe fydd y Gweilch yn wynebu’r cewri o Ffrainc Clermont Auvergne yng Nghwpan y Pencampwyr, y tîm a gollodd yn rownd derfynol y gystadleuaeth eleni.
Bydd Caerwysg a Bordeaux-Begles hefyd yn ymweld â Stadiwm Liberty y tymor nesaf ar gyfer gemau Ewropeaidd sydd yn siŵr o roi her i dîm Steve Tandy.
Mae’r Scarlets wedi cael grŵp heriol arall sy’n cynnwys Northampton, Racing Metro a phencampwyr y Pro12 llynedd, Glasgow.
Mae’n golygu y bydd George North yn debygol o ddychwelyd i Barc y Scarlets gyda’r Seintiau’r tymor nesaf.
Cwpan Her Ewrop
Dyw pethau ddim yn haws ar y Gleision yng Nghwpan Her Ewrop, wrth iddyn nhw gael eu dewis mewn grŵp gyda Montpellier, Harlequins a’r Eidalwyr o Calvisano.
Fe allai hynny olygu felly bod cyn-chwaraewyr y Gleision Jamie Roberts ac Adam Jones, sydd bellach yn chwarae i’r Quins, yn dychwelyd i wynebu eu hen glwb.
Yn un o grwpiau eraill y Cwpan Her fe fydd y Dreigiau yn herio Sale o Loegr, a Castres a Pau o Ffrainc.