Mae timau criced Cymru wedi dechrau’r tymor newydd mewn modd addawol ar draws ystod o grwpiau oedran, meddai Martyn Bicknell.
Dan 12
Dechreuodd tîm dan 12 Cymru yn y modd gorau posib, gan ennill mewn modd cadarnhaol o bum wiced yn erbyn tîm dan 13 Swydd Henffordd.
Ar ôl colli’r dafl, cafodd Cymru eu gorfodi i faesu ond fe wnaethon nhw gymryd camau breision ar unwaith wrth i Jack Parry (GDdn Cymru) gipio wiced gyda phelen gynta’r ornest. Gwellodd Swydd Henffordd gyda phartneriaeth ail wiced o 46 ond methodd canol y batiad i fwrw iddi, wrth i droellwyr Cymru, Luc Rees (Gorllewin Morgannwg, 2-12) a Sean Buchanan (Eryri, 2-9) gyfyngu’r ymwelwyr i 105-7.
Wrth gwrso 106 i ennill, collodd Cymru ddwy wiced yn gynnar, ond gwellon nhw gyda’r pâr o Went, Alex Horton (24) a Joe Westwood (17 h.f.a.) yn arwain Cymru i fuddugoliaeth o bum wiced.
Roedd llwyddiant pellach i dîm dan 12 Cymru wrth iddyn nhw deithio i Glwb Criced Tiverton Heathcote i herio tîm dan 12 Dyfnaint.
Gofynnodd Dyfnaint i Gymru fatio’n gyntaf ar ôl ennill y dafl, ac fe dalodd y penderfyniad ar ei ganfed ar unwaith pan gipion nhw wiced gynnar. Ond roedd partneriaeth swmpus o 55 am yr ail wiced rhwng Ben Kellaway (Gwent, 30) ac Osian Evans (Caerdydd a’r Fro, 49) wedi rhoi Cymru ar y droed flaen. Ond aeth Dyfnaint i’r afael â batwyr Cymru, ac fe aeth 107-3 yn 155 i gyd allan. Serch hynny, cipiodd Jack Parry (1-8) a Joe Westwood (2-20) wicedi cynnar ar ddechrau’r ymateb. Ac ar ôl cyflwyno’r troellwyr Luc Rees (2-15) a Ioan Phillips (Sir Gâr, 2-18) i’r ymosod, gwnaeth canol rhestr fatio Dyfnaint chwalu ac fe gawson nhw eu bowlio allan am 65 yn unig.
Dan 14
Dechreuodd tymor tîm dan 14 Cymru gyda buddugoliaeth hefyd, pan wynebon nhw Millfield. Wrth gwrso 137, arweiniodd Scott O’Leary (Gwent, 52) a Tomos Evans (44 h.f.a.) y Cymry i fuddugoliaeth o wyth wiced. Roedd Connor Davies (GDdn Cymru) wedi cipio 4-23 yn gynharach i gyfyngu Millfield i gyfanswm digon di-nod.
Gwnaeth tîm dan 14 Cymru i fyny drwy guro Swydd Wiltshire mewn gêm â sgor isel iddi. Batiodd Swydd Wiltshire yn gyntaf ond roedden nhw mewn trafferth o’r dechrau, gyda Connor Stone (Gorllewin Morgannwg) yn cipio 5-9 i gyfyngu’r batwyr i 100 yn unig. Ac er iddyn nhw golli ambell wiced yn gynnar wrth ymateb, arweiniodd Travis Morgan (Gwent, 41 h.f.a.) a Tomos Evans (41 h.f.a.) i fuddugoliaeth gysurus.
Dan 17
Roedd tîm dan 17 Cymru wrthi hefyd, ac fe ddechreuon nhw mewn modd disglair yn erbyn Clwb Criced Caerdydd wrth i Oliver Pike (Caerdydd a’r Fro) gipio 3-45 i gyfyngu Caerdydd i 202 oddi ar eu 45 o belawdau. Ond er gwaethaf hanner canred yr un gan Jamie Mills (Caerdydd a’r Fro, 50) a Scott Thornton (Gwent, 56), roedd gwaelod y rhestr fatio wedi methu sgorio’r rhediadau ar y gyfradd angenrheidiol ac roedd Cymru’n brin o 14 o rediadau yn y pen draw.
Roedd gwell i ddod i Gymru dan 17 yn erbyn Crwydriaid Caerfyrddin, wrth iddyn nhw ennill o 77 o rediadau. Rhuthrodd Cymru i 221 diolch i 75 chwim gan Scott Thornton. Wrth gwrso, dechreuodd Caerfyrddin mewn modd addawol gyda phartneriaeth agoriadol o 44, ond roedden nhw wedi methu cadw i fyny drwy gydol yr ornest.
Aeth tîm dan 17 Cymru wedyn i Ysgol Millfield lle roedd Alastair Andrady (GDdn Cymru) wedi taro 110 i roi rheswm da i Gymru feddwl eu bod nhw wedi gosod nod sylweddol. Ond pan ddechreuodd Millfield eu batiad, roedden nhw wedi gallu adeiladu 141 am y wiced gyntaf, ac roedden nhw’n rhy gryf o lawer wrth iddyn nhw fynd yn hamddenol tua’r fuddugoliaeth gydag wyth wiced yn weddill.
Ond gwnaeth tîm dan 17 Cymru ennill unwaith eto wrth roi crasfa i Golegau Cymru o 42 o rediadau ar ôl gosod nod anferth o 282-7 oddi ar 40 o belawdau.
Arweiniodd Steffan Roberts (Morgannwg Ganol) gan sgorio 101 oddi ar 93 o belenni. Ond daeth tân gwyllt go iawn oddi ar fat Ryan Ward (Gwent) a darodd 53 oddi ar 27 o belenni’n unig. Wrth gwrso 283 am y fuddugoliaeth, brwydrodd Colegau Cymru’n galed gyda nifer o fowlwyr Cymru’n ildio rhediadau’n gynnar. Ond roedd bowlio cyson Prem Sisodiya (Caerdydd a’r Fro, 2-37) wedi sicrhau’r fuddugoliaeth gysurus.
Ond collodd tîm dan 17 Cymru yn erbyn Casnewydd ar Barc Spytty. Wrth gael eu gorfodi i fowlio’n gyntaf, roedd Cymru wedi methu cadw trefn ar y sgorfwrdd o’r dechrau’n deg wrth i berfformiad cryf gan y batwyr ar frig rhestr fatio Casnewydd roi’r flaenoriaeth i’r tîm cartref, a hynny er gwaethaf 4-20 gan Ieuan Paske (Sir Gâr). Wrth gwrso 236 i ennill, roedd Cymru’n brin o bell ffordd, er gwaethaf 52 godidog oddi ar 74 o belenni gan Steffan Roberts, ac fe gollon nhw o 29 o rediadau.
Ymateb
“Ry’n ni wedi gweld nifer o berfformiadau addawol gan dimau a chyfraniadau gan unigolion sydd wedi creu argraff ar ddechrau’r tymor,” meddai rheolwr perfformiad Criced Cymru, John Derrick.