Torrodd Graham Wagg record am y nifer fwyaf o ergydion am chwech yn ystod batiad gan fatiwr Morgannwg (11) ar ei ffordd i gyfanswm o 200.
Mae’r cyfanswm yn ailadrodd y record am y cyfanswm dosbarth cyntaf unigol gorau erioed i fatiwr rhif wyth o unrhyw un o’r siroedd – gan efelychu camp Dominic Cork yn erbyn Swydd Durham yn 2000.
Roedd batiad Wagg hefyd yn cynnwys 21 ergyd am bedwar oddi ar 216 o belenni.
Roedd Wagg yn 116 heb fod allan ar ddechrau’r trydydd diwrnod, a’r canred cyntaf wedi’i daro oddi ar 99 o belenni, ac roedd rhagor o glatsio i ddod yn ystod y sesiwn gyntaf y bore ma.
Daeth 79 o rediadau oddi ar yr wyth pelawd gyntaf, ac roedd Michael Hogan (24) hefyd yn benderfynol o ymuno yn yr hwyl, gan daro pum pedwar.
Adeiladodd Wagg bartneriaeth o 105 am y wiced olaf gyda Hogan cyn i Forgannwg gael eu bowlio allan yn y pen draw am 437.
Erbyn amser cinio, roedd Swydd Surrey yn 45-0 yn eu hail fatiad, 14 o rediadau ar y blaen i Forgannwg.