Gareth Bale yn dathlu ei gôl yn erbyn Gwlad Belg nos Wener (llun: David Davies/PA)
Iolo Cheung sydd yn edrych ar daith Cymru i fod ymysg timau pêl-droed gorau’r byd …

Nôl ym mis Gorffennaf 2011, roedd pethau’n edrych yn ddu iawn ar dîm pêl-droed Cymru.

Roedden nhw wedi colli pob un o’u pedair gêm gyntaf yn ymgyrch ragbrofol Ewro 2012, y rheolwyr John Toshack ac yna Brian Flynn wedi mynd, a Gary Speed newydd gymryd yr awenau ar gyfer eu hymgyrch siomedig yn y Nations Cup.

A hwythau yn 112fed yn y byd, yn hafal ag Ynysoedd y Faro, roedd grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2014 ar fin cael eu dewis a Chymru’n wynebu lle yn y pumed pot allan o’r chwech yn Ewrop.

Ond roedd gwaeth i ddod. Fe wnaeth myfyriwr o’r Faro ei sỳms, a gweithio allan bod FIFA yn anghywir yn eu detholiadau. Fe ddylai ei wlad ef fod 0.07 pwynt yn well na Chymru, ac felly roedd rhaid i FIFA newid trefn y timau.

Yn sydyn reit, disgynnodd Cymru i Bot Chwech, y pot olaf un – yr unig dimau oedd yn waeth na nhw yn Ewrop oedd Liechtenstein, Gwlad yr Ia, Kazakstan, Lwcsembwrg, Malta, Andorra a San Marino.

Gwella … ac yna trychineb

Fe ddisgynnodd Cymru i 117eg yn y byd y mis canlynol ar ôl colli gêm gyfeillgar yn erbyn Awstralia, yr isaf maen nhw erioed wedi bod yn y detholiadau.

Ond ar ôl hynny fe lwyddodd y tîm i adfer eu hunain yn syfrdanol, gyda Gary Speed yn arwain y tîm i fuddugoliaethau dros Y Swistir, Montenegro, Bwlgaria a Norwy a cholled anlwcus i Loegr.

Cododd y tîm i 48fed yn y detholiadau o fewn ychydig fisoedd, ond yn fwy na hynny fe gododd hynny obeithion y cefnogwyr a’r chwaraewyr y gallai’r ymgyrch nesaf, er gwaethaf anfantais bod yn ddetholion isaf, fod yn un llwyddiannus.

Ac yna’r newyddion trychinebus.


Gary Speed
Pan ddaeth y newyddion am farwolaeth Gary Speed yn 42 oed, roedd y byd pêl-droed a Chymru gyfan mewn sioc.

Daeth y teyrngedau lu, a ffrindiau oedd wedi’i weld mewn hwyliau da dyddiau ynghynt methu’n lân a deall beth oedd wedi gyrru tad, mab a gŵr cariadus i ladd ei hun.

Ar ôl y cyfnod o alaru cafodd ffrind Gary o’i ddyddiau chwarae gyda Chymru, Chris Coleman, ei benodi’n rheolwr newydd ar y tîm cenedlaethol.

Ond roedd marwolaeth Speed yn pwyso’n drwm ar y chwaraewyr a’r staff hyfforddi o hyd, a hynny i’w weld mewn ymgyrch ragbrofol siomedig ac aflwyddiannus i geisio cyrraedd Cwpan y Byd 2014.

Troi cornel


Chris Coleman
Roedd hi wir yn edrych ar un adeg, ar ôl i Gymru golli yn erbyn Montenegro a Serbia o fewn ychydig ddyddiau yn 2013, fod Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ystyried diswyddo Chris Coleman.

Ond fe lwyddodd i drechu Montenegro a chipio pwynt yn erbyn Gwlad Belg yn nwy gêm olaf yr ymgyrch, a phan gafodd Cymru grŵp mwy hael na’r arfer ar gyfer ymgyrch Ewro 2016 roedd rhyw deimlad bod pethau, efallai o’r diwedd, yn dechrau troi.

Ond wnaeth neb ddarogan y byddai’r trawsnewidiad yn un cystal.

Chwe gêm i mewn i’r ymgyrch, mae Cymru ar frig y grŵp ac o fewn cyrraedd twrnament rhyngwladol am y tro cyntaf ers Cwpan y Byd 1958 (yn swyddogol, wnaethon nhw ddim cyrraedd rowndiau terfynol Ewro 1976).

Ac roedd y fuddugoliaeth ddiwethaf dros Wlad Belg yn un o’r nosweithiau gorau, o ran canlyniad ac awyrgylch, yn hanes y tîm.

Mae’r tîm yn llawn hyder, y garfan yn ffit ac yn iach fel dy’n nhw erioed wedi bod o’r blaen, ac mae’r amddiffyn oedd mor fregus yn y gorffennol wedi ildio dwy gôl yn unig drwy gydol yr ymgyrch, y ddwy o giciau gosod.

Gareth Bale ydi’r seren fawr ar y cae, wrth gwrs, ond fe allech chi ddadlau mai gwir achos y llwyddiant yw gwaith Coleman a’i staff hyfforddi, gan gynnwys Osian Roberts, dros yr 18 mis diwethaf.

Gwell na Sbaen


A fydd gan Gymru grŵp Cwpan y Byd haws y tro hwn?
Ble mae hyn wedi’n gadael ni? Ar drothwy cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc y flwyddyn nesaf, gyda phedwar pwynt o’r pedair gêm olaf yn debygol o fod yn ddigon.

Nid dim ond hynny, ond mae Cymru ar drothwy cyrraedd y deg uchaf yn netholion y byd, yn dibynnu ar ganlyniadau eraill mis yma. Na, nid camgymeriad ydi hwnna, mae Cymru (yn ôl rhestr FIFA) ymysg y deg tîm gorau YN Y BYD.

Mae’n golygu ein bod ni yn uwch na Sbaen, Croatia, yr Eidal a Ffrainc, ac o fewn trwch blewyn i fod yn uwch na Lloegr hefyd. Hynny ar ôl rhannu’r un pot a San Marino ac Andorra tro diwethaf.

Pam bod hyn yn bwysig? Wel, mae grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd 2018 yn cael eu dewis fis nesaf, a naid syfrdanol Cymru yn golygu ein bod ni ymysg y prif ddetholion y tro yma.

Ia, ‘da ni wedi codi o Bot 6 i Bot 1 mewn pedair blynedd, y tîm cyntaf erioed i wneud hynny, a hynny rhwng un ymgyrch a’r llall.

Chewch chi ddim llawer o straeon tylwyth teg gwell na honna.

Pwy hoffwn i?

Dyma sut fydd timau Ewrop yn cael eu didoli pan ddaw’r enwau allan o’r het fis nesaf, felly:

Pot Un – Yr Almaen, Gwlad Belg, Yr Iseldiroedd, Rwmania, Lloegr, CYMRU, Portiwgal, Sbaen, Croatia

Pot Dau – Yr Eidal, Slofacia, Awstria, Y Swistir, Y Weriniaeth Tsiec, Gwlad yr Ia, Ffrainc, Denmarc, Bosnia-Herzegovina

Pot Tri – Gwlad Pwyl, Wcrain, Yr Alban, Hwngari, Sweden, Albania, Gogledd Iwerddon, Serbia, Groeg

Pot Pedwar – Twrci, Slofenia, Israel, Gweriniaeth Iwerddon, Norwy, Bwlgaria, Ynysoedd y Faro, Montenegro, Estonia

Pot Pump – Cyprus, Latfia, Armenia, Y Ffindir, Belarws, Macedonia, Azerbaijan, Lithwania, Moldova

Pot Chwech – Kazakstan, Lwcsembwrg, Liechtenstein, Georgia, Malta, San Marino, Andorra

Dyma beth fyswn i’n ei ddewis fel grŵp delfrydol, y grŵp gwaethaf, a’r grŵp gorau i deithio dramor i’w gwylio.

Grŵp delfrydol: CYMRU, Gwlad yr Ia, Gogledd Iwerddon, Ynysoedd y Faro, Moldova, San Marino

Grŵp gwaethaf: CYMRU, Yr Eidal, Serbia, Twrci, Azerbaijan, Kazakstan

Grŵp gorau i deithio: CYMRU, Y Weriniaeth Tsiec, Groeg, Norwy, Latfia, Malta