Velothon Cymru
Fe lwyddodd Velothon Cymru i godi £500,000 dros elusen ar ôl iddi gael ei chynnal am y tro cyntaf erioed dros y penwythnos.

Roedd dros 13,000 o seiclwyr yn rhan o’r digwyddiad eleni, gan ddechrau a gorffen yng Nghaerdydd a theithio drwy Gasnewydd, Sir Fynwy, Torfaen a Chaerffili.

Yn ôl y trefnwyr roedd dros 60% o’r beicwyr yn dod o Gymru, ac ar ôl y ras fe ddywedodd un o gyn-chwaraewr rygbi Cymru a fu’n cymryd rhan yn y ras ei fod wedi profi “rhywbeth arbennig”.

“Fe welais i filoedd o feicwyr yn mwynhau eu hunain ac roedd miloedd o bobl o gwmpas y cwrs yn eistedd yn eu gerddi neu’n cael barbeciw ac yn ein hannog ni ymlaen,” meddai Colin Charvis.

“Roedd plant yn gweiddi cefnogaeth ac yn dal arwyddion lan felly roedd bod yn rhan o hynny yn ysbrydoliaeth. Pan chi’n mynd lan Mynydd Caerffili ac mae’r coesau yn blino, mae gwybod eich bod chi’n rhan o rywbeth arbennig yn eich gwthio chi ymlaen.

“Roedd hon yn ffordd wych o ddangos Cymru fel lleoliad chwaraeon ac fe ddylen ni fod yn falch iawn fel Cymry i gefnogi’r fath ddigwyddiad.”

‘Gwerth £2m’

Yn ôl y trefnwyr, mae disgwyl i Velothon Cymru fod wedi rhoi hwb o £2m i economi’r ardal leol, ac maen nhw’n gobeithio gallu cael hyd at 20,000 o feicwyr yn cymryd rhan y flwyddyn nesaf.

Dyw lleoliad y ras flwyddyn nesaf heb gael ei phenderfynu eto, ond mae modd i bobl gofrestru i gymryd rhan eisoes.

Ac ar ôl y digwyddiad, fe dalodd y Dirprwy Weinidog dros Ddiwylliant, Hamdden a Chwaraeon deyrnged i’r rheiny oedd wedi cefnogi’r ras.

“Roeddwn i’n falch o weld pobl yn dod allan a chefnogi ar hyd y llwybr a rhoi croeso Cymreig cynnes i bawb oedd yn cystadlu, gan gynnwys y rheiny oedd yn gwneud i elusen,” meddai Ken Skates.

“Rydyn ni’n diolch i drigolion lleol am eu cefnogaeth, sydd wedi helpu sicrhau digwyddiad saff a llwyddiannus.”