A ninnau ar drothwy gêm fawr arall i dîm pêl-droed Cymru, mae criw Pod Pêl-droed Golwg360 nôl unwaith eto wrth i’r cyffro adeiladu cyn yr ornest nos Wener.

Fe fydd Cymru’n herio Gwlad Belg gyda’r ddau dîm yn hafal ar frig eu grŵp rhagbrofol, a buddugoliaeth yn siŵr o roi’r naill dîm neu’r llall o fewn cyrraedd Ewro 2016 yn Ffrainc.

Owain Schiavone, Iolo Cheung a Tommie Collins sydd yn trafod y gêm fawr ar y pod heddiw, gan bendroni pwy fydd yn dechrau i dîm Chris Coleman a beth fyddai’n cyfrif fel canlyniad da i Gymru yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae’r frwydr rhwng Gareth Bale ac Eden Hazard yn cael sylw, ac mae’r tri hefyd yn trafod rhai o sylwadau Wayne Hennessey, Joe Ledley a James Chester cyn y gêm yn ogystal â barn hyfforddwr Cymru Osian Roberts am y paratoadau.

A fydd Cymru yn llwyddo i gyrraedd pencampwriaeth ryngwladol a gwneud beth dyw’r un tîm arall wedi llwyddo’i wneud ers dros hanner canrif? A phwy oedd y tîm gorau, sêr 1993 a 2003 neu carfan heddiw?

Gallwch wrando ar y pod pêl-droed yma: