Owain oedd yr unig un wnaeth ddarogan dechrau cystal i ymgyrch ragbrofol Ewro 2016 Cymru (llun: CBDC)
Gyda ffeinal Cynghrair y Pencampwyr penwythnos diwethaf, mae tymor pêl-droed arall wedi dod i ben (wel, ac eithrio gêm fawr Cymru nos Wener, wrth gwrs!).

Mae’n bryd felly i griw golwg360 edrych nôl ar beth wnaethon ni ddarogan ar ddechrau’r tymor, a gweld pwy oedd â’r ddawn i ragweld y dyfodol a phwy fu’n bell o’r marc.

Isod mae Owain Schiavone, Barry Thomas, Iolo Cheung, Rhys Hartley a Llywelyn Williams yn bwrw golwg dros beth wnaethon nhw ragweld – pwy oedd agosaf ati?

Uwch Gynghrair Lloegr – Chelsea

Owain Schiavone (Chelsea) – Damia, dyliwn i fod wedi rhoi £20 fach ar hyn.

Barry Thomas (Man United) – Doeddwn i ddim eisiau ploncio am yr amlwg a dewis Chelski yn bencampwyr, ond o ystyried y dosh gafodd Jah Jah Van Gaal i’w wario, roedd Man U yn ddim byd llai na gwarthus.

Iolo Cheung (Chelsea) – ‘digon trefnus a soled yn amddiffynnol’ medda fi – wel, mi ro’n i’n iawn am hynny o leia’ wrth i’r Blues wneud jyst beth oedd ei angen a dim mwy.

Rhys Hartley (Arsenal) – Tase nhw wedi cryfhau ym mis Ionawr falle bysen nhw wedi herio, ond roedd Chelsea lot rhy gryf yn y diwedd.

Llywelyn Williams (Lerpwl) – Nes i ddarogan hwnnw’n hollol anghywir! Deluded iawn deud y gwir.

Cynghrair y Pencampwyr – Barcelona

OS (Real Madrid) – Bai Bale di hyn i gyd!

BT (Real Madrid) – Roedd angen Sami Khedira holliach i sicrhau balans yn nhîm Real Madrid, a rhwng absenoldeb Yr Almaenwr a Luka Modric roedd hi’n gachfa go-iawn yn erbyn Juve yn y semis.

IC (Bayern Munich) – Dim syndod eu bod nhw wedi cyrraedd y pedwar olaf, ond roedd Barcelona jyst ar dân.

RH (PSG) – Ar ôl curo Chelsea ro’n i wir yn meddwl ’mod i am fod yn gywir gyda’r un yma, ond roedd triawd blaen Barca ar dân ac fe wnaethon nhw i David Luiz a’i gyd-amddiffynwyr yn edrych fel ffyliaid.

LW (Barcelona) – dewis da fanno!

Cwpanau’r FA a Capital One – Arsenal a Chelsea

OS (Man United ac Arsenal) – Ro’n i’n iawn y byddai Arsenal yn ennill un ohonyn nhw o leia’.

BT (Everton a Stoke) – Everton yn hynod anlwcus yn erbyn West Ham yng Nghwpan yr FA, yn colli ar giciau o’r smotyn, ac er na churon nhw’r gwpan fach, mi gath Stoke Mark Hughes dymor buddiol a Bojanaidd dros ben.

IC (Man United a Lerpwl) – Man United yn drychinebus yn y cwpanau eleni, a Stevie G wedi methu â chael ei ffarwel fawr yn Wembley.

RH (Man United ac Everton) – Louis van Gaal wedi llwyddo i ganolbwyntio ar y gynghrair a gwella ar berfformiad llynedd, ond am dymor trychinebus i Everton.

LW (Man United a Spurs) – Wel, o leia’ wnaeth Spurs gyrraedd rownd derfynol y Cwpan Capital One!

Prif Sgoriwr yr Uwch Gynghrair – Sergio Aguero

OS (Diego Costa) – Oni bai am yr holl anafiadau, Costa fysa wedi mynd â hi – dim dowt.

BT (Wayne Rooney) – Doedd hi fawr o dymor i sdreicars mewn gwirionedd, ac i fod yn deg chafodd Rooney mo’i chwarae yn safle’r prif streicar ddigon aml.

IC (Wayne Rooney) – Mi fysa wedi bod yn help tasa Van Gaal heb ei chwarae yng nghanol cae am gymaint o’r tymor!

RH (Sergio Aguero) – O’r diwedd, rhywbeth yn gywir! Rhan hanfodol o lwyddiant Man City i ddod yn ail eleni. Rhaid canmol Harry Kane yma hefyd.

LW (Didier Drobga) – Hollol anghywir, ddylwn i fod wedi dewis Diego Costa …

Y tri thîm aiff lawr – Burnley, QPR a Hull

OS (Burnley, West Brom a Southampton) – Un allan o dri ddim yn rhy ddrwg … ac mi wnaeth Southampton arwyddo lot o chwaraewyr ar ôl cyhoeddi’r blog yma ;-)

BT (Burnley, QPR a Chaerlŷr) – Biti, biti, biti nad aeth Newcastle i lawr – dyna glwb sydd angen profi’r gwaelod er mwyn clirio’r dec a dod nôl fyny heb y cec.

IC (Burnley, West Brom ac Aston Villa) – Un allan o dri, a ro’n i’n iawn o leia’ i ddeud bysa rheolwyr y ddau glwb arall wedi mynd cyn diwedd y tymor.

RH (West Brom, Hull, Burnley) – Dau allan o dri, ddim yn ffôl. Y ddau aeth lawr yn anlwcus ond diffyg cryfder a phrofiad wedi amharu ar eu gallu i gystadlu. Llongyfarchiadau i Tony Pulis am drawsnewid tymor WBA.

LW (QPR, Burnley, West Brom) – Cefais Burnley a QPR yn gywir. Oni bai am Tony Pulis, efallai buasai WBA lawr hefyd.

Chwaraewr y Flwyddyn – Eden Hazard

OS (Aaron Ramsey) – Gath Ramsey dymor da arall, ond ddim cweit cystal â Hazard yn anffodus.

BT (Sergio Aguero) – Sgoriodd Sergio Aguero dair o’r drôr uchaf yn erbyn Bayern Munich a fo ydi prif ymosodwr y gynghrair, ond fe gafodd ei blagio gan anafiadau. Fyswn i ddim yn dweud bod Eden Hazard yn agos at fod yn ‘world class’.

IC (Wayne Rooney) – Ia, hon ddim yn agos, digonedd o chwaraewyr gafodd gwell tymor na fo.

RH (Aaron Ramsey) – Tymor ‘stop-start’ braidd i’r seren o’r cymoedd, ond yng nghanol popeth roedd Arsenal yn gwneud tua diwedd y tymor. Tase fe wedi cadw’n iach yna wy’n siŵr base fy narogan i wedi bod yn iawn!

LW (Cesc Fabregas) – Cesc Fabregas wedi cael tymor da iawn, er yn amlwg ddim wedi sefyll allan o’i gymharu â John Terry, Harry Kane, Hazard a Costa’r tymor hwn.

‘Signing’ y Tymor

OS (Alexis Sanchez) – Dw i’n credu mod i’n reit agos ati fan hyn – Sanchez wedi cael mwy o impact ar ei dîm nag unrhyw chwaraewyr newydd eraill.

BT (Louis Van Gaal) – Jar Jar Van Gaal yn beth sâl ar y naw. Tu ôl i’r carisma mae’n anodd gweld sylwedd.

IC (Alexis Sanchez) – Anodd dadlau efo hynny, fo oedd seren tymor Arsenal heb os, er y bysa’n deg deud Costa hefyd.

RH (Bojan Krkic) – Ar ôl dechrau arbennig i’r tymor, dioddefodd anaf difrifol yng nghwpan yr FA ac allan ers hynny. Diwedd da Stoke i’r tymor yn dangos nad oedden nhw’n ddibynnol arno.

LW (Adam Lallana) – Ddim wedi rhoi’r byd ar dân fel byddwn i wedi disgwyl ei weld ganddo hyd yn hyn.

Gorgyflawni

OS (QPR) – Ah, ia, wel … nes i grybwyll Caerlŷr hefyd yn do.

BT (Arsenal) – Do fe gurodd yr Arsenal y ddau glwb mawr ym Manceinion, ond parhau mae voodoo Mourinho a Chelski, ac roedd y Gooners yn warthus gartref yn erbyn Monaco.

IC (Caerlŷr) – Wel, mi wnaethon nhw ryw fath o wireddu hyn erbyn y diwedd, ond am y rhan fwyaf o’r tymor roedd yn edrych fel darogan sâl ar y naw!

RH (Caerlŷr) – Cwpl o fisoedd yn ôl roedd hi’n edrych fel ’mod i am fod yn gwbl anghywir ’da hwn, ond mae Pearson a’i garfan wedi ei throi hi o gwmpas yn aruthrol.

LW (Everton) – ‘Di cael hon yn anghywir hefyd. Ddim y tymor gorau mae Everton wedi’i gael o bell ffordd.

Tangyflawni

OS (Southampton) – Ia, ok, dw i’n estyn fy nghôt.

BT (Lerpwl) – Braf cael dweud fod o leia’ un broffwydoliaeth wedi taro’r hoelen ar ei phen!

IC (Man City) – Ddim ddim yn agos at ennill y gynghrair na’r un o’r cwpanau, felly er mai ail yn y gynghrair roedden nhw, hon yn rhyw hanner cywir.

RH (Southampton) – Er iddyn nhw lithro i lawr y tabl yn ail hanner y tymor, fe wnaeth Koeman wyrthiau i ddenu chwaraewyr arbennig i’w garfan ac maen nhw wedi perfformio’n wych iddo.

LW (Man City) – Ia, yn sicr mae Man City wedi tangyflawni’r tymor hwn. Fel dwedais yn gynt, absenoldeb Yaya Toure wedi effeithio ar City yn ddirfawr.

Lle wnaiff Abertawe orffen (8fed)

OS (13eg neu 14eg) – Dylen i fod wedi bod â mwy o ffydd yn Garry Monk a’r Elyrch.

BT (uwch na Chaerdydd) – Tymor hollol wych arall gyda rheolwr sy’n gwybod ei stwff a chlwb sy’n prynu chwaraewyr yn rhad a’u gwerthu am grocbris.

IC (15fed) – Dim dwywaith fod y darogan yma’n bell ohoni.

RH (13eg) – Gorgyflawnwyr mwya’r tymor, falle? Monk wedi creu rhywbeth arbennig yn Abertawe gyda charfan unedig iawn.

LW (13eg) – Gwell nag oeddwn wedi ei ddarogan. Mae hynny’n beth da!

Lle wnaiff Caerdydd orffen (11eg)

OS (gemau ail gyfle, dim dyrchafiad) – Ro’n i’n iawn am y darn ‘dim dyrchafiad’.

BT (ennill yn y gemau ail gyfle) – Welodd Ole ‘ges di’r ddawn’ Solskjaer mo’r Nadolig, a dyna ni wedyn ynte.

IC (gemau ail gyfle a cholli) – Dim dianc o’r ffaith bod hwn wedi bod yn dymor siomedig i’r Adar Gleision.

RH (gemau ail gyfle) – Tymor cythryblus iawn gyda’r clwb yn syrthio o dan Solskjaer a sefydlogi o dan Slade, ond dim uchelgais i wella gyda’r rhan fwya’ o’u chwaraewyr newydd yn dod o’r adrannau is. Straeon fwya’ oddi ar y cae, fel yr arfer.

LW (gemau ail gyfle) – Ymhell ohoni. Tymor siomedig a diflas iawn i Gaerdydd!

Casnewydd a Wrecsam (9fed ac 11eg)

OS (gemau ail gyfle) – Doedd Casnewydd ddim yn rhy bell o’r gemau ail-gyfle, ond Wrecsam heb gael tymor cystal yn amlwg.

BT (dymuno’r gorau) – Heb dalu sylw, felly fedra i ddim barnu …

IC (hanner uchaf) – Wel, roedd hwn yn reit agos ati a deud y gwir, er i Gasnewydd fygwth safleoedd y gemau ail gyfle am sbel.

RH (canol a gwaelod canol y tabl) – Tymor o sefydlogi i’r ddau. Casnewydd yn edrych yn addawol iawn o dan Edinburgh, a Wrecsam wedi gwella tua diwedd y tymor ar ôl dechrau gwael, ond colli i North Ferriby yn ffeinal y Tlws yn atal unrhyw gysur.

Uwch Gynghrair Cymru (Y Seintiau Newydd)

OS (Seintiau) – Darogan eofn, ond cywir … jôc, reit amlwg pwy fyddai’n ennill y gynghrair doedd.

BT (Seintiau) – Y Seintiau eto fyth … bwww!

IC (Airbus) – Wel, roedd rhaid mynd efo un darogan annisgwyl. Ond ddim yr un yma!

RH (Seintiau) – Dim syndod o gwbl i fod yn gywir gyda hwn. Ar y brig ers y cychwyn. Gobeithio gallan nhw gario’u record i mewn i Ewrop eleni.

LW (Rhyl) – Rhyl ymhell o fod y tîm gorau. Unwaith eto, y Seintiau’n dominyddu.

Dechrau Cymru i ymgyrch Ewro 2016 (11 pwynt)

OS (11 pwynt) – Trefn y canlyniadau ddim 100%, ond 11 pwynt yn sbot on – da. Neb arall â’r un ffydd â mi dw i’n gweld!

BT (o leiaf naw pwynt) – Ydan ni am gael cadw pwyntiau’r fuddugoliaeth yn Israel?

IC (wyth pwynt) – ro’n i’n iawn am saith o’r tair gyntaf, ac yn falch o weld bod Cymru wedi fy mhrofi i’n anghywir yn erbyn Gwlad Belg ac Israel!

RH (wyth pwynt) – Yr un dw i fwya’ hapus o fod wedi cael yn anghywir. Wir ddim yn darogan dechreuad mor dda i Gymru, diolch i brofiadau’r gorffennol. Mae ’na rywbeth arbennig am y garfan yma.

LW (o leiaf saith pwynt) – Mae Cymru wedi gwneud yn lot gwell na beth oeddwn wedi disgwyl, yn enwedig gan mod i’n meddwl y buasai nhw’n colli draw ym Mrwsel!

Un dymuniad am y tymor

OS (hogiau ifanc Cymru’n cael cyfle) – Yr un o’r tri (Jonny Williams, Emyr Huws a Tom Lawrence) wedi cael cyfle’n anffodus, a dw i’n bryderus ynglŷn â’r tri gyda Huws a Wigan yn llithro i’r Adran Gyntaf a’r ddau arall yn cael trafferth torri mewn i’w timau. Siomedig.

BT (dyrchafiad i Gaernarfon) – Dim Cofi yn Uwch Gynghrair Cymru … Sdori G*nt!

IC (Everton yn ennill yr Ewropa) – chwalfa drychinebus yn Kiev wedi dod â’r siwrne honno i ben.

RH (cefnogwyr Clapton i reoli’r clwb) – Dim llwyddiant hyd yma, er ry’n ni wedi cynyddu’r dorf yn aruthrol. Rhaid canmol y tîm ar y cae ’fyd – dau ffeinal a’n record pwyntiau gorau mewn cenhedlaeth.

LW (dechrau da i ymgyrch Ewro 2016 Cymru) – Dymuniad wedi dod yn wir!