Iolo Cheung
Fe allai Chris Coleman wneud gwaeth na threfnu gêm gyfeillgar rhwng ei garfan, yn ôl Iolo Cheung …

Nid pob cefnogwr pêl-droed Cymru fyddai’n awyddus i fenthyg syniadau oddi wrth gêm y bêl hirgron, ond efallai bod yna un allai’n sicr fod yn werth ei ystyried yn ystod yr wythnosau nesaf.

Llynedd fe drefnodd Undeb Rygbi Cymru gêm gyfeillgar rhwng y ‘Probables’ a’r ‘Possibles’, er mwyn helpu Warren Gatland i ddewis ei garfan cyn y daith i Dde Affrica.

Y syniad oedd bod chwaraewyr ar gyrion y tîm cenedlaethol yn cael cyfle i herio’r rheiny oedd eisoes yn gwisgo’r crys, gan roi cyfle i ambell enw newydd wneud ei farc.

A chyda thîm pêl-droed Cymru’n paratoi ar gyfer gêm ragbrofol fawr yn erbyn Gwlad Belg mewn llai na mis, mae wedi fy arwain i at bendroni ai dyma fyddai’r adeg perffaith i geisio cynnal rhywbeth tebyg ar gyfer carfan Chris Coleman.

Angen gêm gyfeillgar?

Fe benderfynodd Cymdeithas Bêl-droed Cymru yn ddiweddar i beidio â chynnal gêm gyfeillgar i’r tîm cenedlaethol cyn iddyn nhw herio Gwlad Belg ar 12 Mehefin.

Roedd sôn y gallan nhw fod wedi herio Gogledd Iwerddon, ond mae’n hawdd deall pam y byddai Coleman yn poeni am gael anafiadau i’w garfan ychydig ddyddiau cyn gêm ragbrofol Ewro 2016 dyngedfennol.

Mae’n debyg hefyd y byddai chwarae gêm gyfeillgar, a cholli, wedi rhoi Cymru mewn perygl o lithro i’r trydydd pot pan mae grwpiau rhagbrofol Cwpan y Byd yn cael eu dewis yn ddiweddarach eleni.

Fel mae’n sefyll mae Cymru’n saff o le ymysg yr ail ddetholion, a byddai buddugoliaeth dros y Belgiaid yn eu codi nhw i Bot Un (meddyliwch am hynny am funud!).


Rhywbeth i Osian Roberts a Chris Coleman gnoi cil drosto? (llun: CBDC)
Ond mae dadl gref dros gael gêm gyfeillgar rhywbryd dros yr wythnosau nesaf hefyd, er mwyn i’r chwaraewyr fod yn ffit ac yn siarp cyn y gêm ragbrofol yn Stadiwm Dinas Caerdydd.

Mae tymor arferol y Bencampwriaeth ar ben, ac Uwch Gynghrair Lloegr yn gorffen mewn wythnos a hanner, gan olygu na fydd chwaraewyr Cymru wedi cael gêm ers wythnosau erbyn iddyn nhw wynebu Gwlad Belg.

Byddai’n gyfle pellach i Coleman arbrofi gyda systemau neu chwaraewyr gwahanol hefyd os ydi o’n dymuno gwneud, a dydi cefnogwyr Cymru heb gael cyfle i wylio’r tîm yn chwarae gartref ers saith mis.

Herio’i gilydd

Dyma fyddai cyfle perffaith felly i arbrofi gyda chwarae gêm gyfeillgar rhwng tîm o chwaraewyr sydd yng ngharfan Cymru, a rhai sydd yn cystadlu am le yno.

Ni fyddai gêm gyfeillgar o’r fath yn cyfri fel gêm ryngwladol swyddogol, felly ni fyddai angen poeni am y rhestr detholion, a’r gobaith ydi y byddai’r perygl o anaf yn lleihau mewn gêm gyfeillgar o fewn carfan.

Mae’n debyg bod y tîm cenedlaethol yn bwriadu cael pythefnos o wersyll ymarfer beth bynnag, felly byddai modd chwarae gêm gyfeillgar o leiaf wythnos cyn y gêm gystadleuol go iawn.

A beth am fanteisio ar y cyfle i ddefnyddio’r Cae Ras yn Wrecsam, fel ffordd o’i gwneud hi’n fwy cyfleus i gefnogwyr y gogledd ddod i wylio sêr Cymru?

Byddai’n ffordd o blesio’r cefnogwyr hynny sy’n gorfod teithio am oriau fel arfer i weld eu tîm yn chwarae yng Nghaerdydd, ac yn gyfle iddyn nhw weld rhai o’r chwaraewyr ifanc addawol hefyd.

Y timau

Sut allan dau dîm Probables a Possibles pêl-droed Cymru edrych felly? Byddai tîm y Probables yn dewis ei hun, fwy neu lai, gydag 18 chwaraewr sydd i bob pwrpas yn saff o’u lle yn y garfan.

O anghofio am anafiadau ar y funud, dyma fyddai’r garfan debygol honno:

W. Hennessey, C. Gunter, A. Williams, J. Collins, J. Chester, B. Davies, N. Taylor, S. Ricketts, J. Allen, J. Ledley, A. King, A. Ramsey, D. Cotterill, D. Edwards, G. Bale, H. Robson-Kanu, S. Vokes, S. Church

Fe allai’r tîm felly edrych rhywbeth fel hyn:

Ar gyfer carfan y Possibles, fe allech chi ddewis 22 chwaraewr er mwyn rhoi digon o gyfle i asesu’r opsiynau a rhoi gêm i’r chwaraewyr.

Fe allai’r garfan honno gynnwys enwau sydd eisoes o gwmpas y garfan neu wedi bod yn ddiweddar, gan gynnwys:

Owain Fôn Williams, Danny Ward, Adam Matthews, Jazz Richards, Paul Dummett, Declan John, Adam Henley, David Vaughan, Lee Evans, Shaun MacDonald, Emyr Huws, Jonathan Williams, George Williams, a Tom Lawrence

Fe allech chi hefyd ychwanegu chwaraewyr sydd unai wedi bod ar y cyrion yn y gorffennol, neu sydd wedi bod ar radar Chris Coleman o’r blaen, fel:

Joe Walsh (Crawley), Lewin Nyatanga (Barnsley), Ash Taylor (Aberdeen), Harry Wilson (Lerpwl), Marley Watkins (Inverness), Jake Taylor (Reading), Craig Davies (Bolton), a Tom Bradshaw (Walsall)

Dyma awgrym felly o beth allai tîm y Possibles edrych fel:

A beth am ambell un arall, petai anafiadau, fel y cefnwyr chwith Morgan Fox a Rhoys Wiggins o Charlton, y chwaraewr canol cae Chris Dawson o Leeds, neu’r ymosodwr Tyler Roberts o West Brom?

Neu un arall fyddai o bosib werth ei ystyried – Chris Venables o Aberystwyth, sydd wedi serennu yn Uwch Gynghrair Cymru’r tymor hwn? Byddai’n dda gweld sut fyddai’n ymdopi â chwarae gyda rhai o’r enwau uchod.

Digon o gnoi cil drosto, beth bynnag, ac os oes gennych chi awgrymiadau o chwaraewyr eraill yr hoffech chi weld yn y tîm Possibles, croeso i chi adael sylw.

Ond mi fuaswn i, yn un, yn hoff iawn o weld gêm fel hon yn digwydd cyn i Gymru herio Gwlad Belg ymhen mis!