Vincent Tan
Mae perchennog Clwb Pêl-droed Caerdydd, Vincent Tan wedi prynu clwb KV Kortrijk yng Ngwlad Belg.
Mae Tan eisoes yn berchen ar glwb yn Sarajevo ac mae ganddo gyfrannau yng nghlwb Los Angeles FC.
Mae Kortrijk wedi cyrraedd y gemau ail-gyfle ar ôl gorffen yn chwech uchaf uwch gynghrair Gwlad Belg.
Mae lle i gredu bod Tan wedi prynu’r clwb am bum miliwn Ewro, neu £3.6 miliwn.
Mewn datganiad ar eu gwefan, dywedodd KV Kortrijk: “Mae’r teulu De Gryse a Vincent Tan wedi blaenoriaethu parhad a chynhaliaeth tymor hir tîm adran gyntaf uchelgeisiol Kortrijk.
“Mae nifer o drefniadau wedi cael eu gwneud er mwyn sicrhau y bydd y clwb yn cadw ei hunaniaeth.”
Nid oes disgwyl i Tan wneud newidiadau sylweddol i reolaeth y clwb, ond mae lle i gredu y bydd prif weithredwr Caerdydd, Ken Choo yn cael ei benodi’n gyfarwyddwr.
Yn 2013, cafodd cefnogwyr yr Adar Gleision eu cythruddo pan benderfynodd Tan newid lliw’r crysau o las i goch, ac fe gafodd y penderfyniad ei wyrdroi’n gynharach eleni.
Mae Kortrijk eisoes yn gwisgo coch, sy’n cael ei ystyried yn lwcus ym Malaysia, mamwlad Vincent Tan.