Rhys Hartley
Rhys Hartley sydd allan yn Israel i wylio gêm hollbwysig Cymru yn ymgyrch Ewro 2016…

Yn ôl yr arfer gyda Chymru, digwyddiadau oddi ar y cae sydd wedi dwyn y penawdau wrth i ni edrych ymlaen at ein gêm dyngedfennol yn erbyn Israel ddydd Sadwrn.

Na, nid sôn am sioe fawr flynyddol y bêl hirgron ydw i, ond pêl-droed.

Yn gyntaf, fel sgwennais i’r tro diwethaf, fe atgyfododd y ddadl am fygythiad ‘Team GB’ i’r Gemau Olympaidd i’n hannibyniaeth bêl-droed.

Yna, fe ddaeth etholiad is-lywydd FIFA i dynnu sylw cefnogwyr y gêm brydferth, gyda Chymdeithas Bêl-droed Lloegr yn mynd yn ôl ar ei gair unwaith yn rhagor gan roi eu hymgeisydd nhw ymlaen yn lle cefnogi’n un ni.

Wedyn, dros y penwythnos, bu i gefnogwyr Real Madrid ymosod ar gar ein seren, Gareth Bale.

Ffws allan o’r ffordd

Diolch byth, mae FIFA wedi sicrhau na fydd ‘Team GB’ yn cael cymryd rhan yn Rio heb gytundeb y ‘cenhedloedd cartref’ i gyd – er, pwy sy’n coelio FIFA?

Mae’r saga dros safle’r is-lywydd ar ben, gyda Trefor Lloyd Hughes yn dymuno’n dda i’w gyn-elyn. Ac erbyn hyn, mae Bale wedi ymuno â’r garfan gydag agwedd bositif, yn ôl pawb sydd o gwmpas y grŵp.

Felly dyma ni. Rhown y manion o’r neilltu ac wedi dau benwythnos nerfus iawn yn gweddïo nad oedd sêr Cymru yn dioddef anaf, ry’n ni’n barod ar gyfer ein pumed gêm o’r ymgyrch gyda charfan agos iawn at un lawn, a neb wedi tynnu mas (heblaw am Jazz Richards).

Yn wir, ry’n ni wedi bod yn ffodus iawn gyda’r ffordd y mae’n arwyr wedi bod yn chwarae yn ddiweddar.

Ers dros fis mae Joe Allen wedi rhedeg canol y cae i Lerpwl, gan gymryd lle Steven Gerrard yn y tîm.

Wedi dechrau araf i’r tymor gydag anafiadau, mae Aaron Ramsey wedi sgorio dwy gôl yn ei dair gêm ddiwethaf.

Ac, wrth gwrs, mae Gareth Bale wedi dangos ei werth eto gan sgorio dwy gôl ar ôl naw gêm heb rwydo.

Dyw Chris Coleman ddim yn hoff o drefnu’r tîm o gwmpas ychydig o enwau mawr, a hynny am reswm. Ond mae’n anodd gwadu taw gyda’r tri yma ar y cae y mae’r siawns orau gyda ni o gasglu tri phwynt.

Safle allweddol ar yr asgell

Wedi dweud hynny, mae digon o chwaraewyr eraill yn dod i mewn i’r penwythnos ar gefn perfformiadau arbennig.

Un safle allweddol bydd yn rhoi penbleth i Coleman fydd yr asgell. Heb gyflymder a dewiniaeth y ddau Williams ifanc, mae Hal Robson-Kanu a David Cotterill yn brwydro am le ar y cae.

Ymddengys fel petai Hal yn arbed ei hun at gemau mawr, gan rwydo yn nhair rownd ddiwethaf Cwpan yr FA, ac mae Cotterill wedi sgorio naw o ganol cae eleni hefyd.

Yn yr amddiffyn, mae colli James Chester wedi agor drws i James Collins. Er ei fod e’n adnabyddus am ei gamgymeriadau yn y crys coch, mae ar dop ei gêm yn ddiweddar a bydd ei brofiad ef ynghyd ag Ashley Williams yn y canol yn hollbwysig os y’n ni am gadw ymosod Israel yn dawel.

Pen arall y cae, dim ond un opsiwn go-iawn sydd gyda ni ac, yn anffodus, dyw e heb chwarae’n rheolaidd ers dychwelyd o’i anaf.

Ie, Sam Vokes fydd y dyn i arwain y llinell flaen yn Israel. Fe yw’n ymosodwr gorau a mwya’ profiadol ac, er nad yw’n hollol ffit, mae’n siŵr y bydd e’n rhoi mwy na Simon Church.

Er, gyda gôliau yn ei ddwy gêm ddiwethaf, falle bod Church wedi troi cornel, ond  mae’n cynnig opsiwn o’r fainc.

Y gwrthwynebwyr

A beth am ein gwrthwynebwyr, Israel – gwlad sydd ddim, yn dechnegol, yn Ewrop? Dw i ddim yn gwybod llawer amdanyn nhw, a dweud y gwir.

Mae llawer o’u chwaraewyr yn chwarae yn eu cynghrair ddomestig ac un ohonyn nhw, Omer Damari, wedi sgorio yn eu tair gêm ragbrofol agoriadol. Er hynny, mae e’ wedi cael trafferthion o flaen y gôl yn ddiweddar, felly gobeithio y bydd yn cael noson dawel arall nos Sadwrn.

O’r rhai adnabyddus, mae’r ymosodwr Itay Shechter yn ddrwg-enwog yn ne Cymru am ei amser yn Abertawe, gyda dim ond un gôl yn ei gyfnod yno.

Mae Tal Ben-Haim wedi cael gyrfa hir yn Lloegr, ac yn awr yn chwarae gyda Simon Church yn Charlton.

Ond yn ôl y sôn, Nir Biton yw’r dyn i boeni amdano. Yn chwarae yn Celtic, mae’r chwaraewr canol cae caled wedi bod yn hanfodol yn llwyddiant ei dîm yn y gynghrair a Chwpan yr Alban eleni.

Neb eisiau colli

Er nad ydyn nhw cweit yn cyrraedd calibr ein sêr ni, mae eu record yn yr ymgyrch yma wedi bod yn aruthrol.

Do, fe guron nhw Bosnia tra roedden nhw ar eu hisaf ac na, dy’n nhw heb chwarae Gwlad Belg eto.

Ond, ar ôl chwarae un gêm yn llai na ni, maen nhw’n eistedd ar frig y tabl gyda record 100%. Dim ond pwynt o’n blaenau ni, serch hynny.

Osgoi colled yn bwysig

Mae’r pwysau, felly, ar y ddau dîm. Mae’n rhaid i’r ddau dîm beidio â cholli’r gêm hon. Gyda Gwlad Belg nesaf i’r ddau ohonom, mae’n rhaid cadw’n agos at ein gilydd er mwyn peidio diweddu mewn ras ar gyfer y trydydd safle yn lle’r ddau uchaf.

Yn wir, fe fydd Bosnia yn ôl ynddi cyn bo hir, gyda rheolwr newydd yn ceisio profi ei werth ef.

Beth yw’r darogan, te? Dw i ‘mond newydd gael fy ewinedd yn ôl wedi’r cynnwrf yng Ngwlad Belg… ond dw i’n gweld fy hun yn eu malu’n rhacs unwaith yn rhagor wrth wylio gêm nerfus arall.

Gyda’r ddau dîm yn ceisio peidio â cholli, mae gêm gyfartal yn edrych yn debygol.

Ar y llaw arall, mae’r chwaraewyr gyda ni i greu gôl o ddim byd ac maen nhw wedi profi nad ydyn nhw am ildio’n hawdd.

Gyda’r galon yn curo yn rhy gyflym i benderfynu, mae’r pen yn dweud y gallai hi fynd y ddwy ffordd, felly gêm gyfartal. 1-1.

Ond dw i’n gobeithio ‘mod i’n anghywir a ‘mod i’n dathlu yn Haifa nos Sadwrn!