Gareth Delve yng nghrys Caerloyw
Mae’r Gweilch wedi arwyddo’r blaenasgellwr profiadol Gareth Delve.
Bydd Delve, sydd ar hyn o bryd yn chwarae i NEC Green Rockets yn Japan, yn symud i Gymru yn yr haf am y tro cyntaf yn ei yrfa broffesiynol.
Er bod ganddo 10 cap dros ei wlad fe dreuliodd y rhan fwyaf o’i yrfa gyda chlybiau Caerfaddon ac yna Caerloyw, yn ogystal â chwarae i’r Melbourne Rebels yn Awstralia am ddwy flynedd.
Yn ôl Delve dyma’r amser iawn yn ei yrfa i ddychwelyd i Gymru a chwarae “o flaen fy nheulu”.
Capten ym Melbourne
Mae’r Gweilch wedi bod yn awyddus i arwyddo blaenasgellwr newydd ar gyfer y tymor nesaf, o gofio bod nifer o’u chwaraewyr nhw yn debygol o fod i ffwrdd ar ddyletswydd ryngwladol gyda Chymru yng Nghwpan y Byd yn yr hydref.
Fe ddaeth yr olaf o 10 cap Gareth Delve i Gymru nôl yn 2010, gyda’r ffaith ei fod heb chwarae i glwb yng Nghymru yn debygol o fod yn ffactor yn hynny.
Ond mae wedi gwneud enw i’w hun dramor, gan fod y Cymro cyntaf i chwarae Super Rugby a’r tramorwr cyntaf i fod yn gapten ar un o dimau Super Rugby Awstralia.
‘Cyfle rhy dda’
Dywedodd Gareth Delve fodd bynnag ei fod bellach yn teimlo fel ei bod hi’n bryd dod nôl i Gymru.
“Rydw i’n lwcus o fod wedi chwarae mewn llefydd gwych ac wedi teithio’r byd, ond roedd y cyfle yma i chwarae yng Nghymru gyda thîm gwych ac uchelgeisiol, o flaen fy nheulu, yn rhy dda i’w wrthod,” meddai’r chwaraewr 32 oed.
“Alla i ddim pwysleisio pa mor gyffrous ydw i. O’r holl lefydd fydden i wedi gallu symud ar y pwynt yma yn fy ngyrfa, dyma’r cyfle oedd yn fy nghyffroi i fwyaf.
“Rydw i’n ymuno â’r Gweilch yn gwybod fod ffocws go-iawn ar greu’r amgylchedd iawn ar gyfer llwyddiant, ac mae helpu’r tîm i gyflawni ei llawn botensial yn sialens dw i’n edrych ymlaen ato.”