Joe Allen yr wythnos hon (llun: Nick Potts/PA)
Mae Joe Allen yn cofio’r tro diwethaf i Gymru chwarae mewn gêm mor fawr â’r un yn erbyn Israel y penwythnos yma … ac mae hynny’n ei yrru ymlaen.

Dyw’r chwaraewr canol cae ddim eisiau gweld ailadrodd y gêm ail gyfle pan gollodd Cymru i Rwsia a cholli’r cyfle i gyrraedd rowndiau tefynol Ewro 2004.

“Dw i’n cofio siom y noson honno, o ddod mor agos, ac mae tipyn o’r bois eraill yn cofio hynny hefyd,” meddai.

Heb ddod yn agos wedyn

“Roeddwn i yn y gêm yna gyda’r ysgol, roedden ni’n mynd i Stadiwm y Mileniwm ar gyfer y gemau cartref,” meddai Joe Allen a oedd yn 13 oed ar y pryd.

Ers hynny dyw Cymru ddim wedi dod yn agos, gydag ymgyrchoedd John Toshack, Brian Flynn a Gary Speed yn aml ar ben ar ôl y gemau cyntaf.

Ond mae dechrau addawol y tîm i’r ymgyrch hon – maen nhw’n ail yn y grŵp ar ôl pedair gêm – wedi tanio’r freuddwyd y gallai’r tîm hwn fynd gam ymhellach a chyrraedd Ffrainc yn 2016.

Israel sydd ar y brig ar hyn o bryd.

Dysgu o’r profiad

Mae’r rheolwr, Chris Coleman, hefyd yn dweud mai’r gêm yn erbyn Israel yw un bwysica’r tîm cenedlaethol ers y golled honno i Rwsia.

Ac mae Joe Allen yn siŵr y bydd y garfan yn defnyddio poen eu plentyndod yn hwb ychwanegol.

“Mae’n rhywbeth ychwanegol sy’n ein gyrru ni, o fod wedi profi hynny fel cefnogwyr ifanc. Rydyn ni eisiau bod y grŵp sy’n cyrraedd yno [i rowndiau terfynol pencampwriaeth fawr],” medai Allen, sydd bellach yn 25 oed.

‘Awyrgylch yn wych’

Ac mae’n cofio ochr lwyddiannus yr ymgyrch honno hefyd, yn enwedig pan lwyddodd Cymru i guro’r Eidal.

“Roedd yr awyrgylch yn wych [yn ystod ymgyrch 2004], roedd y gêm yn erbyn yr Eidal yn un wna i fyth anghofio.

“R’yn ni’n teimlo ein bod ni’n cyrraedd nôl i’r lefel yna, mae gennym ni safon a dyfnder yn y garfan nawr a llai o bobl yn tynnu nôl.”

Ar ei orau

Mae gan Joe Allen yn sicr reswm dros fod yn hyderus, gyda’i berfformiadau diweddar i Lerpwl yn ennyn clod gan sylwebwyr o bobman.

Ei obaith yw y bydd yr hyder hwnnw, a’i brofiad yn chwarae pêl-droed Ewropeaidd i’w glwb, yn ei baratoi at deithio i wlad anghyfarwydd fel Israel.

“Mae’n grêt bod nôl yn chwarae’n rheolaidd ac yn ffit, a dw i’n gobeithio y bydd hynny’n help mawr yn mynd mewn i’r gêm,” meddai Allen, sydd eisoes wedi dweud ei fod yn targedu dychwelyd o Haifa gyda’r tri phwynt.

Profiad Ewropeaidd

“Mae chwarae yn y Prem yn brofiad mawr, a’r profiad Ewropeaidd yna hefyd yn [gallu] fy helpu i ar lefel rhyngwladol, dw i eisiau dod a hynny mewn i’r gêm yma.”

Mae hefyd, er gwaethaf y ffaith mai dim ond 19 cap sydd ganddo o hyd, yn teimlo ei bod yn bryd iddo ysgwyddo mwy o faich fel un o chwaraewyr mwyaf profiadol Cymru.

“Dw i ddim yn ystyried fy hun yn chwaraewr ifanc bellach,” cyfaddefodd Allen. “Mae gen i brofiad clwb a rhyngwladol, a dw i’n teimlo’n rhan fawr o’r garfan.”

Stori: Iolo Cheung

‘Gwarth’ cefnogwyr Cymru – stori fan hyn.