Rhys Hartley
Rhys Hartley sydd yn gweld pryderon 2012 yn dod yn wir …
Croeso nôl i 2012! Mae’n rhaid ein bod ni yma achos does bosib ein bod ni’n dal i gael yr un sgwrs eto am Team GB yn chwarae pêl-droed yn y Gemau Olympaidd!?
Cawsom addewid gan yr Awdurdod Olympaidd Prydeinig a gan Gymdeithas Bêl-droed Lloegr mae achlysur arbennig oedd 2012 gan fod y Gemau yn Llundain.
‘One off’ fel maen nhw’n dweud. Roedd ein cefnogwyr ni ein hunain wedi dweud hyn yn blwmp ac yn blaen wrth i rai ohonom brotestio yn erbyn y cynllun yr haf hwnnw.
Geiriau gwag
Ond na. Dyma ni yma, tair blynedd yn ddiweddarach yn wynebu’r un ddadl unwaith yn rhagor, gyda’r FA wedi penderfynu anfon tîm i gynrychioli Prydain yn 2016.
Diolch i’r drefn, mae rhai bellach wedi gweld trwy gelwyddau’r FA ac yn awr yn ein cefnogi ond mae eraill yn dal i feddwl nad oes unrhyw fygythiad i’n hannibyniaeth bêl-droed.
Beth sydd y tu ôl i atgyfodi’r tîm GB ar gyfer Gemau Olympaidd Rio? Pa synnwyr sydd yna o gwbl? Gallai ddim gweld Lloegr yn manteisio o chwarae â thîm cymysg.
Yn sicr, bydd y chwaraewyr ddim yn iach ar ddechrau’r tymor os ydyn nhw wedi chwarae’n gystadleuol tair gwaith mewn wythnos cyn i’r tymor ddechrau.
Bwlio
Pam, felly, y mae’r FA wedi cymryd y penderfyniad yma? A hynny heb ymgynghori â’r tair cymdeithas bêl-droed arall ac yn groes i’w haddewid wedi cystadleuaeth 2012.
Dw i ddim yn un am ddamcaniaethau o gynllwyn ond mae’n amlwg mai’r unig gymdeithas i elwa o lyncu’r cymdeithasau eraill fydd yr FA yn Lloegr.
Mae’r ffaith mai nhw yw’r unig gorff pêl-droed sy’n gysylltiedig â’r British Olympic Association, ac felly wedi medru gwneud y penderfyniad unochrog yma, yn teimlo braidd yn annheg.
Yn ôl CBDC mae’r FA eisoes wedi torri cytundeb rhwng y cenhedloedd cartref i gefnogi ymgais Trefor Lloyd Hughes i ddod yn Is-lywydd FIFA – mae’r FA yn honni bod y cytundeb wedi dod i ben.
Mae’n amhosib anghofio hefyd eu bwriad i dorri’r ‘ddealltwriaeth’ o beidio recriwtio chwaraewyr o dramor wedi iddyn nhw gael dinasyddiaeth Brydeinig, ar ôl ceisio denu Adnan Januzaj i chwarae drostyn nhw.
Ar yr ochr orau, bwlio yw hyn gan y Saeson. Nhw yw’r unig rai all fanteisio. Does dim mantais go iawn heblaw am wyliau am ddim i Frasil i Gareth Southgate a’i fêts yn y tymor byr, felly mae’n rhaid cwestiynu os oes bwriad hir dymor gan yr FA?
Ydy hwn yn sioc? Ddim i’r rheini ohonom a brotestiodd y tro cyntaf. Roeddem wastad yn gweld creu tîm unedig yn fygythiad i’r tîm cenedlaethol.
Cwestiynau’n codi
Yn wir, mae’r ofnau wedi parhau ers y twrnament diwethaf gyda nifer o alwadau ar i dîm unedig y menywod barhau yn y dyfodol. Mae’r diffyg sylw i’r stori hon yn anhygoel! Cam wrth gam mae ein hannibyniaeth yn cael ei erydu.
Cefnogwyr Cymru yn dweud 'Na' i Dîm GB mewn gêm gyfeillgar yn Efrog Newydd yn 2011
Mae’r ddadl ‘Os y’ch chi’n llwyddo i uno ar gyfer un gystadleuaeth pam ddim cael un tîm i Brydain?’ yn un anodd i ddadlau yn erbyn, yn enwedig os ych chi’n edrych o’r tu fas i Brydain.
Pam dylai’r cenhedloedd cartref gael y gorau o ddau fyd? Pam ddylai chwaraewyr o Gymru neu’r Alban neu Ogledd Iwerddon fanteisio ar gefn llwyddiant tîm dan-21 Lloegr yn ogystal â chael chwarae i dimau eu cenhedloedd eu hunain?
Mae’r posibilrwydd o bleidlais ar statws ein timoedd annibynnol ni yn real. Dy’n ni ddim moyn rhoi mwy o reswm iddi ddod i bosibiliad.
Y tro diwetha’ cefais i a’n ffrindiau ein cyhuddo o godi bwganod, gyda’r ochr arall yn dadlau nad oes unrhyw fygythiad i’n statws fel tîm annibynnol.
Mi wnaeth hyd yn oed Craig Bellamy ymosod arnom ni wedi i ni godi baner ‘No Team GB’ yn Efrog Newydd!
Sut yr oedden nhw’n gwybod hyn? Llythyr gan FIFA yn taeru nad oedd unrhyw fygythiad?
Wel, mae’r FA wedi dangos gwerth cytundebau ysgrifenedig yn y byd pêl-droed a dyw FIFA ddim yn gorff sydd â llawer o hygrededd, chwaith.
Cyfnod tyngedfennol
Efallai’r tro diwetha’ doedd dim bygythiad yn llygaid FIFA. Mae’n ddigon teg i ddweud bod hwnnw’n achlysur arbennig gan mai Team GB oedd y tîm cartref.
Ond, fel r’yn ni nawr yn gweld gyda’r stori yn dychwelyd, dim ond y cam cyntaf i lawr y llwybr llithrig oedd hi, fel y gwnaeth rhai ohonom ddarogan ar y pryd.
R’yn ni ar drothwy hanes, yn eistedd yn ail yn ein grŵp rhagbrofol Ewro 2016 cyn y gêm hollbwysig yn erbyn Israel.
Byddai’n siom enfawr i weld y mater hwn yn taflu cysgod dros y misoedd nesaf. Ond mae’n rhaid i ni frwydro y tro yma. Mae dyfodol ein tîm cenedlaethol yn bwysicach na chyrraedd Ffrainc 2016.
Amser dangos dannedd
Y tro dwetha’ roedd CBDC yn wan, yn fy llygaid i. Ie, mae’n rhaid ceisio cadw’r chwaraewyr ar eu hochr ac roedd hi’n amser anodd wedi marwolaeth Speed.
Ond doedd dim digon wedi’i ddweud yn gyhoeddus i ddarbwyllo’r chwaraewyr. Y tro yma, mae’n rhaid iddyn nhw wneud y pwynt yn glir, i chwaraewyr o bob oedran.
Mae Trefor Lloyd Hughes wedi dechrau’n dda wrth gondemnio agwedd yr FA tuag at y gweddill ohonom ond mae’n rhaid parhau i bwyso ar bob ffrynt neu bydd ein dyfodol mewn perygl go iawn.
Ydy’r chwaraewyr wedi dysgu o’r tro diwethaf? Dw i’n amau hynny, a dw i ddim yn gweld Bellamy yn syrthio ar ei fai.
Ni’r cefnogwyr yw’r unig bobl all sicrhau nad yw hwn yn dod yn realiti. Does gan FIFA ddim ots go iawn, a’r FA, yn amlwg, yn poeni hyd yn oed llai.
Mae hon yn ddadl y mae’n rhaid i ni ennill.